Rydyn ni’n defnyddio dull titradu i baratoi halwynau os yw’r adweithyddion yn hydawdd. Gallwn ni ddefnyddio titradiadau i gyfrifo crynodiad a chyfaint adweithyddion.
Galli di gyfrifo maint sylwedd mewn molau mewn hydoddiant os wyt ti’n gwybod y cyfaint a’r crynodiad. Galli di hefyd gyfrifo crynodiad asid sy’n adweithio ag alcali, neu i’r gwrthwyneb.
Mae’r hafaliad hwn yn cysylltu crynodiad, swm o hydoddyn a chyfaint hydoddiant:
Crynodiad mewn mol/dm3 = swm mewn mol ÷ cyfaint mewn dm3
Gallwn ni ad-drefnu’r hafaliad hwn i ganfod swm o hydoddyn neu gyfaint hydoddiant.
Mae angen rhannu cyfaint mewn cm3 â 1,000 i’w drawsnewid yn gyfaint mewn dm3.
Mae 0.5 mol o hydoddyn wedi’i hydoddi mewn 250 cm3 o hydoddiant. Cyfrifa ei grynodiad.
250 cm3 = 250 ÷ 1,000 = 0.25 dm3
Crynodiad = 0.5 ÷ 0.25 = 2.0 mol/dm3
Ad-drefnu’r hafaliad: swm = crynodiad × cyfaint
Cyfrifa swm yr hydoddyn sydd wedi hydoddi mewn 2 dm3 o hydoddiant 0.1 mol/dm3.
Swm = 0.1 × 2 = 0.2 mol
Ad-drefnu’r hafaliad: cyfaint = swm ÷ crynodiad
Cyfrifa gyfaint hydoddiant 2 mol/dm3 sy’n cynnwys 0.5 mol o hydoddyn.
Cyfaint = 0.5 ÷ 2 = 0.25 dm3
Cofia fod 0.25 dm3 yr un fath â 250 cm3 (0.25 × 1,000).
Gallwn ni hefyd fynegi crynodiadau mewn gramau y decimetr ciwb (g/dm3). I drawsnewid rhwng y ddwy uned crynodiad, mae angen defnyddio’r màs fformiwla cymharol (Mr).