Mae dŵr meddal yn ffurfio trochion da wrth gael ei gymysgu â sebon, ond dydy dŵr caled ddim. Mae dŵr caled a dŵr meddal yn ffurfio trochion da gyda glanedyddion sydd ddim yn sebon, fel hylif golchi llestri.
Dyma sut i ymchwilio i galedwch dŵr:
Sampl dŵr | Cyfaint y sebon cyn ei ferwi (cm3) | Cyfaint y sebon ar ôl ei ferwi (cm3) | Casgliad |
---|---|---|---|
A | 2 | 2 | Dŵr meddal |
B | 15 | 2 | Dŵr caled dros dro |
C | 15 | 15 | Dŵr caled parhaol |
Ch | 15 | 10 | Cymysgedd o ddŵr caled dros dro a pharhaol |