Y gwasanaeth Cymun

Mae’r gweddïau a'r darlleniadau mewn gwasanaeth Cymun yn atgoffa pawb sy'n cymryd rhan o'r pryd bwyd olaf hwnnw yn ogystal â geiriau a gweithredoedd dwys Iesu pan oedd ar fin marw.

Mae'r bobl sy'n cymryd rhan yn yfed llymaid o win, neu sudd grawnwin, ac yn bwyta darn bach o ryw fath o fara – bydd y ddau wedi'u cysegru.

An illustration to represent the Eucharist.

Mae gan wahanol eglwysi wahanol ffyrdd o wneud hyn, a gwahanol ffyrdd o ddeall yr ystyr, a pha ddigwyddiadau ysbrydol sy'n digwydd ar y pryd.

Er bod pob enwad yn cydnabod pwysigrwydd y Cymun, maen nhw'n anghytuno am ei ystyr. Mae Catholigion yn credu mai'r bara a'r gwin sy'n cael eu cynnig yw gwir gorff a gwaed Crist, a bod hyn yn fath arall o aberth. Maen nhw'n credu, er bod y bara a'r gwin yn ffisegol yn aros yr un fath, ei fod yn cael ei drawsnewid y tu hwnt i ddealltwriaeth bodau dynol i fod yn gorff, gwaed, enaid a dwyfoldeb Iesu. Traws-sylweddiad yw hyn, ac mae'n cael ei ddathlu yng ngŵyl Corpus Christi.

Mae Protestaniaid yn credu bod Iesu wedi gwneud ei aberth ar y groes, ac yn dilyn traddodiad y sacrament er cof am y digwyddiad, gan gofio ei bwysigrwydd symbolaidd ym mywyd Iesu.

Mae eglwysi hefyd yn amrywio o ran pa mor aml maen nhw'n cynnal Cymun. Y pwysicaf yw'r sacramentau i'r Eglwys, yr amlaf y bydd yr aelodau'n derbyn y Cymun.

I Gatholigion, y Cymun yw'r addoliad pwysicaf. Mae pob person Catholig yn cael ei annog i dderbyn Cymun o leiaf unwaith yr wythnos yn ystod yr offeren. Mae rhai Catholigion yn derbyn Cymun bob dydd.

Mae enwadau eraill yn derbyn Cymun yn llai aml ac fel arfer caiff gwasanaethau eu cynnal unwaith yr wythnos neu bob rhai wythnosau.