Gallwn ni ddefnyddio dangosyddion i ddosbarthu llawer o gemegion fel cemegion asidig, niwtral neu alcalïaidd. Rydyn ni'n defnyddio'r raddfa pH i fesur asidedd ac alcalinedd. Pan mae asid yn cael ei niwtraleiddio, mae'n ffurfio halwyn.
Mae asidau cryf yn daduno’n llwyr mewn dŵr i gynhyrchu’r nifer mwyaf posibl o ïonau H+. Mae hyn yn golygu y byddai un mol o foleciwlau asid hydroclorig (HCl) i gyd yn ‘hollti’ i ffurfio un mol o ïonau H+ ac un mol o ïonau Cl–.
Dydy asidau gwan, fel asid ethanöig (CH3COOH), ddim yn daduno’n llwyr. Dim ond tuag un y cant o foleciwlau asid ethanöig sy’n hollti i ffurfio ïonau H+ ac ïonau CH3COO– ar unrhyw un adeg.
Mae hyn yn golygu bod gwerthoedd pH asidau cryf yn is na gwerthoedd asidau gwan, sy'n egluro pam bod cyfradd adwaith asidau cryf â sylweddau (megis metelau, carbonadau metel ac ati) yn uwch na chyfradd asidau gwan.
Mae hyn hefyd yn egluro pam bod cynnydd mewn tymheredd yn ystod adwaith gydag asidau cryf yn uwch nag asidau gwan.
Cofia’r gwahaniaeth rhwng gwan a chryf a gwanedig a chrynodedig. Mae asid gwanedig yn golygu bod y moleciwlau asid wedi cymysgu â llawer o ddŵr, fel bod crynodiad yr ïonau H+ yn isel. Mae asid crynodedig yn golygu nad oes llawer o foleciwlau dŵr wedi’u cymysgu â’r moleciwlau asid, fel bod crynodiad yr ïonau H+ yn uchel.