Adroddiad Beveridge

Yn 1941, fe wnaeth Llywodraeth Glymblaid y rhyfel sefydlu Comisiwn Brenhinol dan ofal y gwleidydd Rhyddfrydol, Syr William Beveridge, i ddarganfod pa fath o Brydain yr oedd pobl eisiau ei gweld ar ôl y rhyfel.

Enw swyddogol yr adroddiad, a chafodd ei gyhoeddi yn 1942, oedd Social Insurance and Allied Services, ac roedd yn cynnwys cynlluniau i wella Prydain ar ôl i’r rhyfel ddod i ben.

William Beveridge yn cyfarch torf mewn neuadd.
William Beveridge yn annerch torf yn Llundain ynglŷn â’i adroddiad

O ganlyniad i’w ymchwil, datganodd bod yna bum cawr ar y ffordd i ailadeiladu, sef:

  • angen – incwm digonol i bawb
  • afiechyd – mynediad i ofal iechyd
  • anwybodaeth – addysg dda
  • aflendid – tai digonol
  • segurdod – cyflogaeth enillol

Er mwyn gwella Prydain a thaclo’r pump ‘cawr drwg’ yma, cynigiodd sefydlu gwladwriaeth les.

Syniadau o Adroddiad Beveridge ynglŷn â sut i daclo y pum ‘cawr’ mewn cymdeithas – gofal meddygol am ddim, addysg am ddim, gwell tai, nawdd cymdeithasol a chyflogaeth llawn.

Pam fod cymaint o wleidyddion a phobl yn dymuno sefydlu gwladwriaeth les?

Roedd pobl wedi aberthu cymaint yn ystod yr Ail Ryfel Byd, roedden nhw’n credu eu bod wedi ymladd i gael gwell dyfodol a’u bod yn haeddu hynny oherwydd eu cyfraniad i’r rhyfel. Roedd nifer yn credu mewn cymdeithas decach gyda:

  • gofal meddygol am ddim
  • pensiwn henoed
  • tai fforddiadwy

Y syniad oedd i gynnig rhwyd ddiogelwch i bobl o’r crud i’r bedd. Roedd yn un o bolisïau allweddol y Blaid Lafur – fel yr addawyd hynny yn ymgyrch etholiadol 1945.