Y coroni a phoblogrwydd Elisabeth

Ar 17 Tachwedd 1558, yn 25 oed, dywedwyd wrth Elisabeth bod ei hanner chwaer, Mari Tudur, wedi marw. Etifeddodd deyrnas ansefydlog - roedd Cymru a Lloegr wedi’u rhannu gan grefydd, roedd tlodi ar gynnydd, a gelynion estron yn tyfu’n fwy pwerus.

Daeth Elisabeth yn frenhines ar ôl i’w brawd (Edward VI) a’i chwaer (Mari I) farw, mewn cyfnod pan oedd nifer dal yn teimlo na ddylai menywod deyrnasu. Er gwaetha’r ffaith iddi etifeddu’r problemau hyn, gwelwyd ei theyrnasiad fel un ddaeth â sefydlogrwydd yn ôl i’r deyrnas.

Coroni Elisabeth

Roedd hi’n bwysig i Elisabeth gael cefnogaeth ei deiliaid, yn enwedig ei deiliaid mwyaf pwerus. Ei cham cyntaf tuag at gyflawni hyn oedd drwy’r coroni, a gynhaliwyd yn Llundain ar 15 Ionawr 1559.

Roedd Elisabeth yn benderfynol o greu argraff gychwynnol gref, ac o ganlyniad, roedd y coroni yn ddigwyddiad mawreddog. Cynhaliwyd taith frenhinol ar gwch ar hyd yr Afon Tafwys gyda’r seremoni yn cael ei chynnal yn Abaty Westminster.

Roedd y rhan fwyaf o uchelwyr Elisabeth yn y seremoni yn ogystal â nifer o ymwelwyr o dramor. Er gwaethaf dyledion o bron i £250,000 wrth ddod yn frenhines, costiodd y coroni tua £16,000, cymaint oedd ei hawydd i roi argraff o bŵer. Daeth y coroni yn weithred o bropaganda, felly hefyd ei defnydd o bortreadau.

Portrait of seated Elizabeth I at her coronation. She is wearing her coronation robes and is holding a sceptre and an orb.
Mae portread o goroni Elisabeth yn ei dangos gyda chronnell a theyrnwialen, sef symbolau o’i phŵer

Cafwyd cryn gynnwrf yn ystod teyrnasiad Edward a Mari, yn bennaf oherwydd newidiadau i grefydd y deyrnas. Gwelwyd erledigaeth grefyddol yn ystod teyrnasiad Mari ac roedd y ffaith iddi briodi Brenin Philip o Sbaen yn ei gwneud hi’n amhoblogaidd gyda’r bobl.

Dyma un o’r rhesymau pam roedd Elisabeth yn boblogaidd pan ddaeth yn frenhines gyntaf. Roedd hefyd yn boblogaidd oherwydd ei bod yn ifanc, yn sengl ac yn Saesnes. Gwelwyd ei hesgyniad i’r orsedd fel dechrau newydd.