Darwin a Wallace

Naturiaethwr oedd Alfred Russel Wallace a gynigiodd ddamcaniaeth esblygiad trwy ddetholiad naturiol yn annibynnol. Roedd yn edmygydd mawr o Charles Darwin, a chynhyrchodd bapurau gwyddonol gyda Darwin yn 1858. Ysgogodd hynny Darwin i gyhoeddi On the Origin of Species y flwyddyn ganlynol.

Y naturiaethwr o Gymru, Alfred Russel Wallace (1823 - 1913).
Alfred Russel Wallace
Darlun dyfrlliw o löyn aden aderyn aur (Ornithoptera croesus).

Bu Wallace yn gweithio dros y byd yn casglu tystiolaeth i gefnogi ei ddamcaniaeth esblygiadol. Mae’n fwyaf adnabyddus am astudio lliwiau rhybuddio mewn anifeiliaid, er enghraifft y glöyn aden aderyn aur (Ornithoptera croesus), yn ogystal ag am ei ddamcaniaeth am ffurfiant rhywogaethau.

Yn dilyn amrywiaeth o ddarganfyddiadau sŵolegol, cynigiodd Wallace ddamcaniaeth esblygiad oedd yn cyd-fynd â’r syniadau yr oedd Darwin wedi’u cadw’n gyfrinachol heb eu cyhoeddi ers bron i 20 mlynedd. Ysgogodd hyn Darwin i gasglu ei syniadau gwyddonol a chydweithio â Wallace. Fe gyhoeddon nhw eu syniadau gwyddonol ar y cyd yn 1858.

Egwyddorion esblygiad trwy ddetholiad naturiol

Y syniad y tu ôl i ddamcaniaeth esblygiad drwy broses detholiad naturiol yw bod pob rhywogaeth o bethau byw wedi esblygu o ffurfiau bywyd syml dros gyfnod o amser. Mae’r Ddaear oddeutu 4.5 biliwn mlwydd oed, ac mae tystiolaeth gwyddonol i awgrymu bod bywyd ar y Ddaear wedi cychwyn fwy na 3 biliwn o flynyddoedd yn ôl.

Detholiad naturiol

Yn ôl y ddamcaniaeth dderbyniol am esblygiad, mae’n digwydd trwy ddetholiad naturiol. Dyma’r pwyntiau allweddol.

  • Mae unigolion mewn rhywogaeth yn dangos amrediad eang o amrywiad ac mae’r amrywiad hwn yn ganlyniad gwahaniaethau yn eu genynnau a achosir gan fwtaniadau ar hap, y gellir eu hetifeddu.
  • Ym mhob poblogaeth cynhyrchir llawer mwy o epil nag sy’n gallu goroesi. Mae’r gorgynhyrchiad hwn yn arwain at gystadleuaeth, ee am fwyd.
  • Mae unigolion sydd â’r nodweddion mwyaf addas i’w hamgylchedd yn fwy tebygol o oroesi ac atgenhedlu. Goroesiad y cymhwysaf yw’r term cyffredin am hyn. Caiff y genynnau sy’n caniatáu i’r unigolion hyn ffynnu o fewn eu hamgylchedd eu pasio ymlaen i’w hepil, fel bod y genynnau penodol hyn yn mynd yn fwy cyffredin.
  • Mae unigolion sydd wedi ymaddasu’n wael i’w hamgylchedd yn llai tebygol o oroesi ac atgenhedlu. Mae’n llai tebygol y caiff eu genynnau eu pasio ymlaen i’r genhedlaeth nesaf.
  • Dros gyfnod o amser, bydd rhywogaeth yn esblygu’n raddol.
  • Gall genynnau a’r amgylchedd ill dau achosi amrywiad, ond dim ond amrywiad genetig all gael ei drosglwyddo i’r genhedlaeth nesaf.
  • Os bydd dwy boblogaeth o un rhywogaeth yn mynd yn fwyfwy gwahanol o ran ffenoteip nes bod dim modd iddynt bellach ryngfridio i ffurfio epil ffrwythlon, gall hyn arwain at ffurfio dwy rywogaeth.

Modelu detholiad naturiol

Gellir defnyddio’r model hwn i ddangos sut y gall detholiad naturiol ddigwydd ar sail nodwedd cuddliw mewn poblogaeth o organebau ysglyfaeth.

Dull

  • Defnyddia gerdyn gwyrdd yn gefndir.
  • Gosoda 20 darn o linyn gwyrdd ac 20 darn gwyn ar hap ar y cerdyn i gynrychioli poblogaethau organebau ysglyfaeth.
  • Gan ddefnyddio gefel i gynrychioli ceg yr ysglyfaethwr, casgla gymaint o ddarnau llinyn ag y gallwch mewn 10 eiliad.
  • Cyfrifa a chofnoda faint o ddarnau gwyrdd a gwyn sydd ar ôl.
  • Gwna yr un peth ddwy waith eto.
Llaw yn dal plyciwr sy’n codi llinyn gwyrdd a gwyn. Stopwats sy’n dangos 00:03

Canlyniadau’r model

Tabl yn dangos Nifer yr organebau sydd ar ôl o’r 20 gwreiddiol. Amser ar ôl ysglyfaethu (s); 10, 20, 30. Gwyrdd; 18, 15, 10. Gwyn; 15, 9, 1

Mae’r model hwn yn dangos, er bod y ddwy rywogaeth ysglyfaeth yn cael eu hysglyfaethu, y gall y rhywogaeth â’r radd uwch o guddliw oroesi. Mewn realiti, byddai’r organebau hyn yn gallu bridio a phasio’u genynnau cuddliw ymlaen. Lle roedd dosbarthiad cyfartal o organebau gwyrdd a gwyn gynt, bellach mae deg gwaith yn fwy o’r organebau cuddliw na’r organebau heb guddliw.

Cyfyngiadau’r model

Yn y model hwn dydi’r ysglyfaeth ddim yn symud. Beth petai’r organebau gwyn yn llawer cyflymach na’r rhai gwyrdd?

Gall fod tuedd o du’r ysglyfaethwr hefyd. Gallai’r gwyddonydd sy’n dethol yr ysglyfaeth wneud hynny nid ar y sail fod rhai yn haws eu gweld, ond ar y sail ei fod yn ymwybodol o’r canlyniadau disgwyliedig.