Claddu Mwslimaidd yng Nghymru

Y beddau

Pan gaiff Mwslimiaid eu claddu mewn mynwentydd cyhoeddus yng Nghymru, defnyddir rhan arbennig ar wahân o’r fynwent. Yn y Fynwent Orllewinol yn Nhrelái yng Nghaerdydd, mae ardal neilltuedig ar gyfer claddedigaethau Mwslimaidd, lle defnyddir cerrig beddi syml i nodi’r beddau. Yn aml mae arysgrif Arabeg a Saesneg ar y garreg.

Yn 2016, cododd cymuned Fwslimaidd Caerdydd £6,500 i dalu am welliannau i’r ardal gladdu Fwslimaidd yn y Fynwent Orllewinol, ee:

  • arwyddion mewn Arabeg, Cymraeg a Saesneg, yn rhoi cyfarwyddiadau ynghylch sut i ymddwyn yn barchus wrth ymweld â’r fynwent
  • dwy fainc goffa, lle gall pobl eistedd a myfyrio
  • gwrychoedd helaeth i roi preifatrwydd ac addurn

Yr eirch

Yn draddodiadol, mae’n well gan Fwslimiaid beidio â defnyddio arch. Ond yng Nghymru, dywed y gyfraith fod yn rhaid defnyddio arch i gladdu bob amser.

Rôl y mosg lleol

Mae gan sawl mosg ystafell arbennig a ddefnyddir fel marwdy. Bydd y teulu’n paratoi’r corff i’w gladdu, gan olchi’r corff yn ôl defod a elwir yn ghusl. Mae Canolfan Islamaidd De Cymru yn ardal Butetown, Caerdydd yn darparu cyfleusterau angladdol ar gyfer golchi, amdói ac adrodd gweddïau dros yr ymadawedig.

Y claddu

Yn draddodiadol bydd claddedigaeth Fwslimaidd yn digwydd o fewn 24 awr wedi’r farwolaeth, ac wedi i’r corff gael ei olchi a’i amdói mewn lliain. Ond, os nad yw hyn yn bosibl, caniateir hyd at dri diwrnod. Mae’n draddodiad i Imam arwain y gweddïau ar lan y bedd. Mae Cyngor Dinas Caerdydd yn rhedeg cynllun sy’n sicrhau y gellir claddu Mwslim o fewn 24 awr i’w farwolaeth.

Move on to Test
next