Tirffurfiau erydol a dyddodol

Ystumiau afon

Wrth i’r afon weithio’i ffordd i’r cwrs canol, mae ganddi fwy o ddŵr, ac mae hynny’n golygu mwy o egni, felly mae’n gallu cludo deunydd mewn daliant ac mae’n defnyddio’r deunydd hwn i erydu glannau’r afon. Mae erydiad ochrol yn dechrau lledu’r afon. Pan fydd afon yn llifo dros dir mwy gwastad mae’n datblygu dolennau mawr sy’n cael eu galw’n ystumiau afon.

  • Wrth i afon fynd o amgylch tro, mae’r rhan fwyaf o’r dŵr yn cael ei wthio tuag at yr ochr allanol. Mae hyn yn achosi mwy o gyflymder oherwydd bod llai o ffrithiant ac, o ganlyniad, mwy o erydiad (drwy weithred hydrolig a sgrafelliad).
  • Mae’r erydiad ochrol ar ochr allanol y tro yn achosi i lan yr afon gael ei thandorri i ffurfio clogwyn afon.
  • Mae llai o ddŵr ar ochr fewnol ystum afon felly mae ffrithiant yn achosi i’r dŵr arafu, colli egni a dyddodi’r deunydd y mae’r afon yn ei gludo, gan greu llethr graddol.
  • Mae’r gwaddod wedi ei ddyddodi sy’n crynhoi yn cael ei alw’n llethr slip (tirffurf bach) neu weithiau’n draeth afon.
Mae’r cerrynt cyflym ar y lan allanol yn achosi erydiad ochrol, ac yn creu clogwyn afon. Mae’r cerrynt araf ar y lan fewnol yn achosi dyddodiad, ac yn creu llethr slip.

(Cynnwys Saesneg)