Mae alcanau’n ddefnyddiol fel tanwyddau, ac mae alcenau'n cael eu defnyddio i wneud cemegion fel plastig. Moleciwlau cadwyn hir yw polymerau. Maen nhw’n bodoli’n naturiol mewn pethau byw ac mae modd hefyd eu gwneud nhw â phrosesau cemegol mewn diwydiant. Polymerau yw plastigion, felly mae polymerau’n gallu bod yn ddefnyddiol iawn.
Gallwn ni ddefnyddio alcenau i wneud polymer.
Moleciwlau mawr iawn sy’n ffurfio wrth i lawer o foleciwlau adweithiol, llai uno â’i gilydd, ben wrth ben, yw polymerau. Enw’r moleciwlau llai yw monomerau.
Yn gyffredinol:
llawer o foleciwlau monomer → moleciwl polymer
Rydyn ni’n galw’r polymerau sy’n ffurfio yn bolymerau adio.
Mae’r sioe sleidiau hon yn dangos sut mae llawer o fonomerau cloroethen yn gallu uno ben wrth ben i wneud poly(cloroethen), neu PVC:
Gallwn ni grynhoi’r dull fel hyn:
Mae alcenau’n gallu gweithredu fel monomerau am eu bod nhw’n annirlawn: