Mae alcanau’n ddefnyddiol fel tanwyddau, ac mae alcenau'n cael eu defnyddio i wneud cemegion fel plastig. Moleciwlau cadwyn hir yw polymerau. Maen nhw’n bodoli’n naturiol mewn pethau byw ac mae modd hefyd eu gwneud nhw â phrosesau cemegol mewn diwydiant. Polymerau yw plastigion, felly mae polymerau’n gallu bod yn ddefnyddiol iawn.
Mae enwau moleciwlau organig yn deillio o’r teulu organig symlaf: yr alcanau.
Bydd angen i ti ddysgu sut i enwi moleciwlau hyd at 5 atom carbon o hyd. Does dim ffordd hawdd o wneud hyn - rhaid i ti eu dysgu nhw.
Cod | Nifer yr atomau carbon |
---|---|
meth | 1 |
eth | 2 |
prop | 3 |
bwt | 4 |
pent | 5 |
Mae hi’n gymharol hawdd enwi moleciwlau llinol, ond beth sy’n digwydd os oes canghennau yn y gadwyn? Beth sy’n digwydd os yw’r grŵp OH yn bondio â’r ail atom carbon yn y gadwyn?
Mae’r rheolau canlynol yn ein galluogi ni i roi enw unigryw i unrhyw gyfansoddyn organig:
Enw llawn: 2-methylbwt-1-en
Os oes unrhyw grwpiau’n ailadrodd yn y moleciwl, mae angen y rhagddodiad deu-(dau), tri-(tri) neu tetra-(pedwar) (er enghraifft, CH3C(CH3)2CH3 – deumethylpropan).