Mae alcanau’n ddefnyddiol fel tanwyddau, ac mae alcenau'n cael eu defnyddio i wneud cemegion fel plastig. Moleciwlau cadwyn hir yw polymerau. Maen nhw’n bodoli’n naturiol mewn pethau byw ac mae modd hefyd eu gwneud nhw â phrosesau cemegol mewn diwydiant. Polymerau yw plastigion, felly mae polymerau’n gallu bod yn ddefnyddiol iawn.
Mae’r alcenau’n gyfres homologaidd o hydrocarbonau sy’n cynnwys bond dwbl carbon-carbon. Mae nifer yr atomau hydrogen mewn alcen yn ddwbl nifer yr atomau carbon, felly eu fformiwla gyffredinol yw:
CnH2n
Er enghraifft, fformiwla foleciwlaidd ethen yw C2H4, a fformiwla foleciwlaidd propen yw C3H6.
Dyma enwau ac adeileddau pedwar o alcenau:
Mae gan fwten ddau isomer â chadwyn syth, oherwydd gellir rhoi'r bond dwbl mewn dau le neu ddau leoliad gwahanol:
Mae alcenau’n annirlawn, sy’n golygu eu bod nhw’n cynnwys bond dwbl. Y bond hwn yw’r rheswm pam mae’r alcenau’n fwy adweithiol na’r alcanau.