Cyn mesur rhywbeth, mae angen gwybod pa uned i’w defnyddio. Gelli di wneud hyn drwy amcangyfrif ei faint yn fras. Wrth drosi rhwng unedau, mae rhai rheolau syml y dylet ti eu dilyn.
I wirio cywirdeb rhif wedi ei dalgrynnu, mae angen i ti ganfod y rhifau mwyaf a lleiaf y gallai fod wedi ei dalgrynnu ohonyn nhw.
Nifer y plant mewn ysgol ydy \({800}\), yn gywir i’r \({100}\) agosaf. Beth ydy’r nifer lleiaf posibl, a'r nifer mwyaf posibl, o blant yn yr ysgol?
Mae nifer y plant yn yr ysgol wedi ei dalgrynnu i’r \({100}\) agosaf i roi \({800.}\)
Yr ateb ydy \({750}\) ac \({849}\).
Y rhif lleiaf sy’n talgrynnu i \({800}\) ydy \({750}\).
Y rhif mwyaf sy’n talgrynnu i \({800}\) ydy \({849}\).
Felly, y nifer lleiaf posibl o blant yn yr ysgol ydy \({750}\), a’r nifer mwyaf posibl o blant yn yr ysgol ydy \({849}\).
Sylwer: mae \({850}\) yn union hanner ffordd rhwng \({800}\) a \({900}\), ond mae \({850}\) yn talgrynnu i fyny i roi \({900}\), felly \({849}\) ydy’r ateb.
Mae Alwena’n gwario \(\pounds{80}\) yn yr archfarchnad leol, yn gywir i’r \(\pounds{10}\) agosaf. Beth ydy'r swm lleiaf a mwyaf y gallai Alwena fod wedi ei wario?
Yr ateb ydy \(\pounds{75.00}\) ac \(\pounds{84.99}\).
Y rhif lleiaf sy’n talgrynnu i \(\pounds{80}\) ydy \(\pounds{75}\).
Y rhif mwyaf sy’n talgrynnu i \(\pounds{80}\) ydy \(\pounds{84.99}\).
Cofia fod \(\pounds{85}\) hanner ffordd rhwng \(\pounds{80}\) a \(\pounds{90}\), ond mae \(\pounds{85}\) yn talgrynnu i fyny i \(\pounds{90}\), felly rhaid mynd am yr uned leiaf posibl yn llai na \({85}\) (sef yn yr achos hwn, ceiniog yn llai), felly \(\pounds{84.99}\).