Cyn mesur rhywbeth, mae angen gwybod pa uned i’w defnyddio. Gelli di wneud hyn drwy amcangyfrif ei faint yn fras. Wrth drosi rhwng unedau, mae rhai rheolau syml y dylet ti eu dilyn.
Mae’r dull trosi rhwng unedau’n gweithio’r un fath ar gyfer trosi unedau arwynebedd a chyfaint, ond mae angen gofal.
Rydyn ni’n gwybod bod \({1}~{cm} = {10}~{mm}\), felly, wrth feddwl am sgwâr a’i ochr yn \({1}~cm\), rydyn ni’n gweld bod ei arwynebedd yn \({1}~cm\times{1}~cm = {1}~cm^{2}\).
O wneud y cyfrifiad mewn \({mm}\) fe gawn ni \({10}~{mm}\times{10}~{mm} = {100}~{mm}^{2}\). Felly mae \({1}~cm^{2} = {100}~mm^{2}\).
Yn yr un modd mae \({1}~cm^{3} = {10}\times{10}\times{10}~mm^{3} = {1,000}~mm^{3}\).
\({1}\) droedfedd sgwâr \(={12}\times{12}\) modfedd sgwâr \(={144}\) modfedd sgwâr.
Wrth drosi o un math o uned i un arall, bydd angen i ti wybod faint o’r unedau llai sydd eu hangen i wneud 1 uned fwy.
Wrth drosi o uned fwy i uned lai rwyt ti’n lluosi, ee \({m}^{2}\) i \({cm}^{2}\).
Wrth drosi o uned lai i uned fwy, rwyt ti’n rhannu, ee \({cm}^{2}\) i \({m}^{2}\).
Trosa \({50,000}~cm^{2}\) i \({m}^{2}\).
\({1}~{m} = {100}~{cm}\).
Felly, \({1}~m^{2} = {100}~cm\times{100}~cm = {10,000}~cm^{2}\).
Rwyt ti’n trosi o uned lai (\(cm^{2}\)) i uned fwy (\(m^{2}\)), felly rhanna.
\({50,000}~cm^{2} = {50,000}\div{10,000} = {5}~m^{2}\).
Trosa \({10}~cm^{3}\) i \(mm^{3}\).
\({1}~cm = {10}~mm\).
Felly, \({1}~cm^{3} = {10}~mm\times{10}~mm\times{10}~mm = {1,000}~mm^{3}\).
Rwyt ti’n trosi o uned fwy (\({cm}^{3}\)) i uned lai (\({mm}^{3}\)), felly lluosa.
\({10}~cm^{3} = {10}\times{1,000} = {10,000}~mm^{3}\).