Cyn mesur rhywbeth, mae angen gwybod pa uned i’w defnyddio. Gelli di wneud hyn drwy amcangyfrif ei faint yn fras. Wrth drosi rhwng unedau, mae rhai rheolau syml y dylet ti eu dilyn.
Mae’r tabl yn dangos rhai o’r unedau mwyaf cyffredin a’u cywerthoedd. Gwna’n siŵr dy fod yn gwybod y trosiadau hyn.
Trosi mesuriadau | |||
---|---|---|---|
Hyd | \[{1}~{km} = {1,000}~{m}\] | \[{1}~{m} = {100}~{cm}\] | \[{1}~{cm} = {10}~{mm}\] |
Pwysau | \[{1~tunnell} = {1,000}~{kg}\] | \[{1}~{kg} = {1,000}~{g}\] | \[{1}~{g} = {1,000}~{mg}\] |
Cynhwysedd | \[{1}~{l} = {100}~{cl}\] | \[{1}~{cl} = {10}~{ml}\] |
I drosi uned fwy’n uned lai (ee \({m}\) i \({cm}\)) dylet ti wirio yn gyntaf sawl uned lai sydd ei hangen i wneud \({1}\) uned fwy. Wedyn, lluosa’r rhif hwnnw â nifer yr unedau mwy.
I drosi uned lai’n uned fwy (ee \({cm}\) i \({m}\)), dylet ti ei rhannu â nifer yr unedau llai sydd eu hangen i wneud \({1}\) uned fwy.
\[{1}~{m} = {100}~{cm}\]
Felly, i drosi o \({m}\) i \({cm}\) lluosa â \({100}\), ac i drosi o \({cm}\) i \({m}\) rhanna â \({100.}\)
Er enghraifft:
\({3.2}~{m} = {320}~{cm}\) (\({3.2}\times{100} = {320}\))
\({400}~{cm} = {4}~{m}\) (\({400}\times{100} = {4}\))
Trosa’r canlynol i’r unedau sydd mewn cromfachau:
a) \({5,120}~{g}\) (\({kg}\))
b) \({15}~{cl}\) (\({ml}\))
c) \({245}~{mm}\) (\({m}\))
a) \({5.12}~{kg}\). Cofia fod \({1}~{kg} = {1,000}~{g}\). I drosi o \({g}\) i \({kg}\), rhanna â \({1,000}\).
b) \({150}~{ml}\). Cofia fod \({1}~{cl} = {10}~{ml}\). I drosi o \({cl}\) i \({ml}\), lluosa â \({10}\).
c) \({0.245}~{m}\). Cofia fod \({1}~{m} = {1,000}~{mm}\). I drosi o \({mm}\) i \({m}\), rhanna â \({1,000}\).