Moleciwlau cofalent syml

Mae dau brif fath o sylweddau â bondiau cofalent:

  • moleciwlau cofalent syml
  • adeileddau cofalent enfawr

Dim ond ychydig o atomau sydd mewn moleciwlau syml, ac mae bondiau cofalent yn eu dal nhw at ei gilydd. Un enghraifft yw carbon deuocsid (CO2). Yn y moleciwl, mae un atom carbon yn bondio â dau atom ocsigen.

Diagram dotiau a chroesau carbon deuocsid. Maen nhw'n rhannu dau grŵp o electronau, ac mae dau ddot a dwy groes ym mhob grŵp.

Fodd bynnag, er bod y bondiau cofalent sy’n dal yr atomau at ei gilydd mewn moleciwl syml yn gryf, mae’r grymoedd rhyngfoleciwlaidd rhwng moleciwlau syml yn wan.

Priodweddau sylweddau moleciwlaidd syml

  • Ymdoddbwyntiau a berwbwyntiau isel – mae hyn oherwydd nad oes angen llawer o egni i dorri’r grymoedd rhyngfoleciwlaidd gwan.
  • Ddim yn dargludo trydan – mae hyn oherwydd nad oes dim electronau rhydd na gwefr drydanol gyffredinol mewn unrhyw gyflwr mater.

Mae hydrogen, amonia, methan a dŵr pur hefyd yn foleciwlau syml. Mae gan y rhain i gyd fondiau cofalent cryf rhwng atomau, ond grymoedd rhyngfoleciwlaidd llawer gwannach rhwng moleciwlau.

Pan mae un o’r sylweddau hyn yn ymdoddi neu’n berwi, y grymoedd rhyngfoleciwlaidd gwan hyn sy’n torri, nid y bondiau cofalent cryf. Ar dymheredd ystafell, mae sylweddau moleciwlaidd syml yn nwyon, neu’n hylifau neu’n solidau ag ymdoddbwyntiau a berwbwyntiau isel. Maen nhw hefyd yn feddal, eto oherwydd y grymoedd rhyngfoleciwlaidd gwan sy’n hawdd eu torri.

Mae’r lluniau’n dangos sut mae’r grymoedd rhyngfoleciwlaidd gwan rhwng moleciwlau dŵr yn cael eu torri wrth eu berwi neu eu hymdoddi:

Nifer mawr o foleciwlau dŵr, yn dangos y bondiau cofalent cryf rhwng yr atomau ocsigen a hydrogen ym mhob moleciwl, a'r grymoedd gwan rhwng y moleciwlau eu hunain.