Adeileddau electronig

Mae adeiledd electronig atom yn disgrifio sut mae’r electronau wedi’u trefnu. Gallwn ni ddangos hyn â rhifau neu â diagram.

Atom lithiwm â thri electron mewn orbit o gwmpas y niwclews: dau yn y plisgyn egni cyntaf, un yn yr ail.Adeiledd electronig lithiwm

Er enghraifft, lithiwm. Mae’r diagram yn dangos pob plisgyn fel cylch o gwmpas y niwclews, ac mae pob electron wedi’i gynrychioli â dot. Rydyn ni’n ysgrifennu adeiledd electronig lithiwm fel 2,1 (sy’n dangos bod gan atomau lithiwm dri electron, dau yn y plisgyn cyntaf ac un yn yr ail blisgyn).

Tabl yn dangos diagram, ffurfwedd electronau a grŵp tabl cyfnodol fflworin, neon, sodiwm a chalsiwm.