Rhesymau pam anfonwyd yr Armada

Yn ystod y cyfnod hwn, Sbaen oedd y wlad fwyaf pwerus yn y byd. Datblygodd yn wlad gyfoethog iawn oherwydd ei choncwestau yn y Byd Newydd (Canolbarth America), ardal gafodd ei hadnabod fel y Môr Sbaenaidd.

Roedd y Sbaenwyr yn Gatholigion cryf, ac er bod gan Gymru a Lloegr berthynas dda gyda Sbaen ar ddechrau teyrnasiad Elisabeth, roedd sawl rheswm pam y gwaethygodd y berthynas honno, gan arwain at ryfel yn y pen draw.

Beth arweiniodd at ryfel?

Chwe ffactor a arweiniodd at ryfel rhwng Lloegr a Sbaen yn 1585.
MaterionEglurhad
Gwahaniaethau crefyddolRoedd Sbaen yn wlad Gatholig a Lloegr yn wlad Brotestannaidd – sy’n golygu bod gan y ddau arweinydd safbwyntiau a theyrngarwch ysbrydol gwahanol.
Gwrthod PriodiRoedd Brenin Philip II o Sbaen wedi bod yn briod â chwaer Elisabeth, Mari I. Pan fu farw Mari gofynnodd i Elisabeth ei briodi ond gwrthododd hi’r cynnig.
Môr-ladrataYmosododd morwyr o Loegr fel Hawkins a Drake ar longau Sbaen a dwyn trysorau oddi arnyn nhw'n y Byd Newydd. Roedd Brenin Philip yn gandryll ond roedd Elisabeth yn annog ac yn gwobrwyo anturiaethwyr.
Y rhyfel cartref yn FfraincFfrainc oedd gelyn traddodiadol Lloegr a Sbaen, a olygai eu bod yn uno gyda’i gilydd yn erbyn y wlad. Nawr bod Ffrainc mewn rhyfel cartref, roedd gan y wlad ei phroblemau ei hun i boeni amdanyn nhw, a ddim yn fygythiad mwyach – felly roedd y gynghrair rhwng Sbaen a Lloegr ddim yn angenrheidiol bellach.
Roedd Sbaen yn cefnogi’r cynllwyniau CatholigCafwyd tystiolaeth fod Sbaen yn cefnogi cynllwyniau i adfer Catholigiaeth i Loegr, yn enwedig drwy gael Mari, Brenhines y Sgotiaid ar yr orsedd a di-orseddu Elisabeth.
Gwrthryfel yr IseldiroeddDechreuodd Protestaniaid yn yr Iseldiroedd wrthryfel yn erbyn rheolaeth Sbaen yn 1572. Yn dawel bach, roedd Elisabeth yn cefnogi gwrthryfelwyr yr Iseldiroedd oherwydd gwyddai hi y byddai gwrthryfel yr Iseldiroedd yn cadw’r Sbaenwyr yn rhy brysur i fygwth Lloegr.
Ymunodd byddin Elisabeth â gwrthryfelwyr yr IseldiroeddYn 1585, anfonodd Elisabeth fyddin i helpu gwrthryfelwyr yr Iseldiroedd i ymladd yn erbyn Sbaen. Am y tro cyntaf, roedd byddinoedd Lloegr a Sbaen yn ymladd â’i gilydd. Roedd Lloegr a Sbaen bellach mewn rhyfel.

Pwysigrwydd yr Iseldiroedd

Yn ystod y cyfnod hwn, roedd yr Iseldiroedd yn cael ei reoli gan Sbaen, ond roedd hefyd yn ardal oedd yn ddaearyddol agos ac hanfodol i fasnach Lloegr, yn enwedig gwlân a brethyn.

Erbyn 1572, roedd syniadau Protestannaidd wedi ymledu yn yr Iseldiroedd a dechreuodd gwrthryfelwyr yr Iseldiroedd ymgyrch am annibyniaeth oddi wrth Sbaen Gatholig, gan arwain at Wrthryfel yr Iseldiroedd.

Roedd Brenin Philip II o Sbaen yn benderfynol o sathru ar y gwrthryfel. Anfonodd fyddin o dan Dug Alva i orchfygu’r gwrthryfelwyr, oedd yn cael eu harwain gan William, Tywysog yr Orenwyr.

Fodd bynnag, ar ôl llofruddiaeth William yn 1584, cafodd Elisabeth ei pherswadio i helpu’r gwrthryfelwyr Protestannaidd ac anfonwyd byddin o 7,600 o ddynion i’r wlad. Roedd hynny gyfystyr â datgan rhyfel gyda Sbaen.

Arweiniodd hynny, yn ogystal â chyfuniad o ffactorau eraill fel môr-ladrata ymhlith y Saeson, at Philip yn penderfynu gorchfygu Lloegr o’r diwedd, drwy gyfrwng Armada Sbaen.

Cafodd cynlluniau Philip i orchfygu Lloegr eu paratoi’n gyflym, ond unwaith clywodd y Saeson amdanyn nhw, hwyliodd Syr Francis Drake tuag at Cadiz yn Sbaen ym mis Mai 1587.

Distrywiodd yr holl longau yn yr harbwr a helpodd hynny i arafu’r Armada rhag gadael. Hefyd, distrywiodd y cyflenwadau o bren, gan adael Sbaen heb fawr ddim pren i ail-adeiladu ei llynges. Yn y diwedd, hwyliodd llynges Sbaen ym mis Gorffennaf 1588.