Pryd mae bywyd yn cychwyn? Mae Cristnogion yn credu bod bywyd yn hynod o arbennig ac mae ganddyn nhw wahanol agweddau ar faterion megis erthylu, ewthanasia a rhoddi organau.
Roedd rhaid i Bill fynd i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd ar ôl strôc ddifrifol. Rai wythnosau'n gynharach, roedd wedi cael sgwrs ddifrifol am roi organau gyda'i ferch Karen.
Pan ddaeth hi'n glir nad oedd siawns y byddai Bill byth yn gwella, cafodd ei arennau eu rhoi i ddau o bobl, gan achub eu bywydau.
Mae wedi gwneud ei golli ef yn haws, oherwydd mae fel bod rhywbeth da wedi dod o'r peth, ac alla' i ddim meddwl am ffordd arall i rywbeth da ddod o farwolaeth rhywun.Karen, merch rhoddwr organau