Newid poblogaeth yng Nghymru

Graff bar yn dangos nifer y preswylwyr yng Nghymru rhwng 1801-2011.Cydnabyddiaeth: Census 2011 - Population and Household Estimates for Wales, March 2011. Fynhonnell: Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol
  • Ar noson cyfrifiad cenedlaethol 2011 roedd poblogaeth Cymru yn 3.06 miliwn. Dyma’r boblogaeth fwyaf erioed yng Nghymru.
  • Roedd 1.50 miliwn o ddynion ac 1.56 miliwn o ferched yng Nghymru.
  • Tyfodd y boblogaeth 153,300 rhwng cyfrifiadau 2001 a 2011, gan gynyddu o 2.9 miliwn yn 2001, sef cynnydd o 5.3 y cant. Hwn oedd y twf mwyaf yn y boblogaeth rhwng cyfrifiadau ers 1921. Yn 1911, roedd 2.4 miliwn o bobl, felly am bob pedwar o bobl yng Nghymru yn 1911, roedd pump yn 2011.
  • Er i’r gwahaniaeth rhwng genedigaethau a marwolaethau beri cynnydd bach yn y boblogaeth, roedd cyfraddau mudo yn cyfrif am dros 90 y cant o’r cynnydd yn y boblogaeth rhwng 2001 a 2011. Mae hyn yn cynnwys mudo rhyngwladol a mudo o rannau eraill o’r DU.
  • Oed canolrifol y boblogaeth yng Nghymru oedd 41. Ar gyfer dynion, 40 oedd yr oed canolrifol ac ar gyfer merched roedd yn 42. Roedd hyn ddwy flynedd yn uwch na’r oed canolrifol o 39 ledled Cymru a Lloegr yn 2011. Yn 1911, roedd yr oed canorifol ledled Cymru a Lloegr yn 25.
  • Roedd canran y boblogaeth yng Nghymru a oedd yn 65 oed a throsodd yn uwch nag y bu mewn unrhyw gyfrifiad, sef dros 18 y cant, cyfanswm o 563,000 o bobl.
  • Roedd 25,000 o breswylwyr yng Nghymru a oedd yn 90 oed a throsodd yn 2011, o gymharu â 19,000 yn 2001 a dim ond 700 yn 1911.
  • Mae'r cyfrifiad wedi casglu data bob 10 mlynedd, heblaw am 1941.

Y Swyddfa Ystadegau Gwladol yw’r ffynhonell fwyaf, yn ogystal â'r un fwyaf dibynadwy, sy'n ymwneud ag ystadegau maint poblogaeth.

Yng Nghymru, mae’r boblogaeth wedi cynyddu’n gyflym yn y deng mlynedd diwethaf oherwydd nifer o wahanol ffactorau. Y tri phrif ffactor yw:

  • Ffactorau cymdeithasol – Mae newidiadau mewn cymdeithas a chredoau crefyddol yn golygu bod llawer o deuluoedd yn dewis rheoli a chyfyngu ar nifer y plant maen nhw’n eu cael. Mae gwelliannau meddygol yn golygu bod cyfraddau marwolaethau babanod yn isel iawn ac mae dulliau atal cenhedlu’n rhoi mwy o ddewis a rheolaeth i ferched. Mae nifer cynyddol o oedolion yn chwilio am ffyrdd mwy anturus/rhydd o fyw, ac mae rhai’n dewis allfudo o Gymru.
  • Ffactorau economaidd – Wrth i gyflogau godi’n raddol ac wrth i safonau byw wella, mae pobl yn cael eu denu i weithio yng Nghymru o wledydd eraill yn Ewrop a’r byd. Mae llawer o ferched yn awyddus i gael gyrfa ac yn dewis peidio â chychwyn teulu nes byddan nhw wedi setlo ac yn fwy sefydlog. Mae rhai merched yn dewis peidio â chael plant o gwbl oherwydd ymrwymiadau gwaith.
  • Ffactorau gwleidyddol – Yn y gorffennol mae llywodraethau wedi bod yn cynnig cymhellion drwy wneud taliadau bach i deuluoedd sydd ag un, dau neu hyd yn oed dri phlentyn. Fodd bynnag, yn 2016 daeth y llywodraeth Geidwadol â thaliadau i deuluoedd sydd â thrydydd plentyn i ben.