Wrth gasglu a chofnodi data, gelli di eu cynrychioli mewn diagram. Gan ddibynnu ar y canlyniadau, gelli di ddefnyddio siart bar, siart cylch, graff, pictogram, diagram amlder neu ddiagram gwasgariad.
Mae \({10}\) disgybl mewn ysgol yn astudio Ffrangeg ac Almaeneg ar gyfer TGAU. Mae’r marciau gawson nhw mewn prawf diweddar wedi eu cofnodi yn y tabl isod:
Eurig | Ifan | Anwen | Lowri | Rhys | Lleucu | Siôn | Rhiannon | Robin | Nia | |
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Marc yn Ffrangeg | \[{42}\] | \[{62}\] | \[{32}\] | \[{78}\] | \[{70}\] | \[{18}\] | \[{68}\] | \[{52}\] | \[{84}\] | \[{38}\] |
Marc yn Almaeneg | \[{48}\] | \[{56}\] | \[{24}\] | \[{68}\] | \[{?}\] | \[{22}\] | \[{76}\] | \[{54}\] | \[{89}\] | \[{39}\] |
Gelli di lunio diagram gwasgariad i gynrychioli’r marciau hyn. Gan fod Rhys yn absennol ar ddiwrnod y prawf Almaeneg does gennyt ti ddim digon o wybodaeth i farcio ei sgôr.
O edrych ar y diagram gwasgariad hwn mae cydberthyniad positif cryf rhwng y marciau Ffrangeg a’r marciau Almaeneg, felly gelli di dynnu llinell ffit orau i ddangos y duedd honno.
Sgoriodd Rhys \({70}\) yn Ffrangeg, felly gan ddefnyddio’r llinell ffit orau, gelli di amcangyfrif y buasai wedi cael \({72}\) yn Almaeneg.
Dim ond os oes cydberthyniad positif neu negatif cryf y gallwn ni dynnu llinell ffit orau.
Does dim rhaid i’r llinell ffit orau fynd drwy’r tarddbwynt.
Mae’r llinell ffit orau yn dangos y duedd, ond dim ond bras amcan ydy hi ac amcangyfrifon fydd unrhyw ddarlleniadau rwyt ti’n eu cymryd ohoni.