Wrth gasglu a chofnodi data, gelli di eu cynrychioli mewn diagram. Gan ddibynnu ar y canlyniadau, gelli di ddefnyddio siart bar, siart cylch, graff, pictogram, diagram amlder neu ddiagram gwasgariad.
Mae canlyniadau Cymraeg a mathemateg deg disgybl wedi eu dangos yn y tabl isod:
Sali | Kim | Wil | Twm | Guto | Alex | Begw | Cen | Alan | Jo | |
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Marc mathemateg | \[{20}\] | \[{71}\] | \[{60}\] | \[{52}\] | \[{80}\] | \[{32}\] | \[{47}\] | \[{90}\] | \[{49}\] | \[{80}\] |
Marc Cymraeg | \[{30}\] | \[{80}\] | \[{65}\] | \[{50}\] | \[{81}\] | \[{38}\] | \[{40}\] | \[{87}\] | \[{55}\] | \[{70}\] |
I weld a oes cydberthyniad rhwng y marciau mathemateg a Chymraeg, gallet ti blotio diagram gwasgariad.
Mae’r marc mathemateg ar y raddfa lorweddol a’r marc Cymraeg cyfatebol ar y raddfa fertigol.
Marc mathemateg Wil oedd \({60}\) a’i farc Cymraeg oedd \({65}\), felly mae ei ganlyniadau wedi eu cynrychioli gan y pwynt porffor ar gyfesurynnau \(({60},~{65})\).
Yn y diagram gwasgariad uchod, marc pwy sydd wedi ei gynrychioli gan y groes borffor?
Cyfesurynnau’r groes ydy \(({80},~{70})\).
Felly, \({80}\) ydy’r marc mathemateg a \({70}\) ydy’r marc Cymraeg.
Mae’r groes borffor yn cynrychioli marciau Jo.
Mae'r diagramau isod yn dangos sut gelli di ddehongli cydberthyniad gan ddibynnu ar batrwm y gwasgariad.
Cydberthyniad positif
Mae’r pwyntiau’n gorwedd yn agos at linell syth, sydd ar raddiant positif.
Mae hyn yn dangos, wrth i un newidyn gynyddu, bod y llall yn cynyddu.
Cydberthyniad negatif
Mae’r pwyntiau’n gorwedd yn agos at linell syth, sydd ar raddiant negatif.
Mae hyn yn dangos tra bod un newidyn yn cynyddu, y mae'r llall yn gostwng.
Dim cydberthyniad
Does dim patrwm i’r pwyntiau.
Mae hyn yn dangos nad oes cysylltiad rhwng y ddau newidyn.
Fyddet ti’n disgwyl cael cydberthyniad positif, cydberthyniad negatif, neu ddim cydberthyniad rhwng y parau o newidynnau canlynol:
a) Tymheredd a gwerthiant hufen iâ
b) Taldra a deallusrwydd
a) Wrth i’r tymheredd godi, mae gwerthiant hufen iâ’n debygol o gynyddu hefyd. Felly, mae’n debyg y bydd cydberthyniad positif.
b) Mae’n annhebygol fod cysylltiad rhwng taldra a deallusrwydd. Felly, does dim cydberthyniad.