Wrth gasglu a chofnodi data, gelli di eu cynrychioli mewn diagram. Gan ddibynnu ar y canlyniadau, gelli di ddefnyddio siart bar, siart cylch, graff, pictogram, diagram amlder neu ddiagram gwasgariad.
Mae’r diagram amlder hwn yn dangos taldra \({200}\) o bobl:
Gelli di greu polygon amlder drwy gysylltu canolbwyntiau topiau’r bariau.
Mae polygonau amlder yn arbennig o ddefnyddiol ar gyfer cymharu gwahanol setiau o ddata ar yr un diagram.