Wrth gasglu a chofnodi data, gelli di eu cynrychioli mewn diagram. Gan ddibynnu ar y canlyniadau, gelli di ddefnyddio siart bar, siart cylch, graff, pictogram, diagram amlder neu ddiagram gwasgariad.
Mae’r tabl isod yn dangos y marciau a enillwyd gan \({30}\) o ddisgyblion yn eu harholiad diwedd tymor.
I ddangos y wybodaeth hon mewn siart cylch, cymera’r camau canlynol:
Copïa a chwblha’r tabl isod, wedyn defnyddia’r data i greu siart cylch.
Marc | Amlder | Ongl |
---|---|---|
A | \[{7}\] | \[\frac{7}{30}\times{360}={84}^\circ\] |
B | \[{11}\] | |
C | \[{6}\] | |
D | \[{4}\] | |
E | \[{2}\] |
Marc | Amlder | Ongl |
---|---|---|
A | \[{7}\] | \[\frac{7}{30}\times{360}= {84}^\circ\] |
B | \[{11}\] | \[\frac{11}{30}\times{360} = {132}^\circ\] |
C | \[{6}\] | \[\frac{6}{30}\times{360} = {72}^\circ\] |
D | \[{4}\] | \[\frac{4}{30}\times{360} = {48}^\circ\] |
E | \[{2}\] | \[\frac{2}{30}\times{360} = {24}^\circ\] |