Wrth gasglu a chofnodi data, gelli di eu cynrychioli mewn diagram. Gan ddibynnu ar y canlyniadau, gelli di ddefnyddio siart bar, siart cylch, graff, pictogram, diagram amlder neu ddiagram gwasgariad.
Mae’r siart cylch hwn yn dangos canlyniadau arolwg o sut mae myfyrwyr yn teithio i’r ysgol.
a) Beth ydy’r dull teithio mwyaf cyffredin?
b) Pa ffracsiwn o’r myfyrwyr sy’n teithio i’r ysgol mewn ceir?
c) Os mai \({6}\) o fyfyrwyr sy’n teithio mewn ceir, faint o bobl gymerodd ran yn yr arolwg?
a) Bws ydy’r dull teithio mwyaf cyffredin gan mai dyma’r sector mwyaf ar y siart cylch.
b) Mae \(\frac{1}{4}\) o’r myfyrwyr yn teithio mewn ceir.
c) Mae \({6}\) o fyfyrwyr yn teithio mewn ceir, ac mae hynny’n \(\frac{1}{4}\) y cyfanswm. Felly, cafodd \({24}\) o bobl eu holi ar gyfer yr arolwg.
Gwerthodd cadwyn o archfarchnadoedd \({3,600}\) paced o selsig yn ystod y mis diwethaf. Mae’r siart cylch yn dangos y gwahanol flasau.
Mae cig eidion yn \({150^\circ}\), llysieuol yn ongl sgwâr, porc yn \({40^\circ}\) ac eraill yn \({80^\circ}\).
a) Sawl pecyn o selsig llysieuol gafodd ei werthu?
b) Sawl pecyn o selsig cig eidion gafodd ei werthu?
a) Selsig llysieuol ydy \(\frac{1}{4}\) y cyfanswm a werthwyd, felly cyfrifa \(\frac{1}{4}\) o \({3,600}\): \(\frac{1}{4}\times{3,600} = {900}\). Felly, gwerthwyd \({900}\) pecyn o selsig llysieuol yn ystod y mis diwethaf.
b) Mae \({360}^\circ\) mewn cylch cyflawn. Mae gan y sector ‘cig eidion’ ongl o \({150}^\circ\), felly mae’r sector cig eidion yn \(\frac{150}{360}\) o’r cylch. \(\frac{150}{360}\times{3,600} = {1,500}\). Felly, gwerthwyd \({1,500}\) pecyn o selsig cig eidion.