Wrth gasglu a chofnodi data, gelli di eu cynrychioli mewn diagram. Gan ddibynnu ar y canlyniadau, gelli di ddefnyddio siart bar, siart cylch, graff, pictogram, diagram amlder neu ddiagram gwasgariad.
Mewn siart bar, mae uchder y bar yn dangos amlder y canlyniad.
Gan fod uchder y bar yn cynrychioli amlder, rho’r label ‘Amlder’ ar yr echel fertigol. Bydd label yr echel lorweddol yn dibynnu ar beth sy’n cael ei gynrychioli gan y siart bar.
Mae Llew’n cynnal arolwg i ganfod sawl person sydd ym mhob un o’r ceir sy’n dod at giât yr ysgol rhwng \({8.30am}\) a \({9.00am}\). Mae ei ganlyniadau yn cael eu dangos yn y siart bar isod:
a) Sawl car oedd yn cynnwys \({1}\) person?
b) Sawl car oedd yn cynnwys mwy na \({3}\) o bobl?
c) Pam mai dim ond nifer fach o geir oedd yn cynnwys \({1}\) person?
a) Roedd \({8}\) car yn cynnwys \({1}\) person.
b) Roedd \({14}\) car yn cynnwys mwy na \({3}\) o bobl (\({10}+{4}={14}\)).
c) Rhieni’n dod â’u plant i’r ysgol fyddai yn y rhan fwyaf o’r ceir. Dim ond ychydig fyddai’n cynnwys athro/athrawes neu ddisgybl chweched dosbarth ar eu pen eu hunain.