Mewn hafaliad mae’r arwydd 'yn hafal i' yn golygu bod y ddwy ochr yr un fath. Ond pan dydy’r ddwy ochr ddim yr un fath, bydd angen defnyddio anhafaleddau i ddangos y berthynas rhwng y ddwy ochr.
Os nad ydy anhafaledd mor syml ag \({x} \textgreater {a}\), neu \({y}\textgreater{b}\), mae angen i ti ad-drefnu’r anhafaledd er mwyn gallu ei ddatrys.
\[{5y} + {1}\textless{26}\]
Yn gyntaf, mae angen cael y gwerthoedd \({y}\) ar eu pen eu hun, felly tynna \({1}\) o’r ddwy ochr i roi:
\[{5y}\textless{25}\]
I ganfod \({y}\), rhanna’r ddwy ochr â \({5}\) i roi:
\[{y}\textless{5}\]