Mewn hafaliad mae’r arwydd 'yn hafal i' yn golygu bod y ddwy ochr yr un fath. Ond pan dydy’r ddwy ochr ddim yr un fath, bydd angen defnyddio anhafaleddau i ddangos y berthynas rhwng y ddwy ochr.
Gelli di ddangos anhafaleddau ar linell rif hefyd.
Defnyddia ddot gwag ar gyfer \(\textless\)
Defnyddia ddot gwag ar gyfer \(\textgreater\)
Defnyddia ddot wedi ei lenwi ar gyfer \(\leq\)
Defnyddia ddot wedi ei lenwi ar gyfer \(\geq\)
\[{x}\geq{-1}\]
Mae hyn yn dangos bod \({x}\) yn fwy na neu’n hafal i \({-1}\)
\[{x}\textless{2}\]
Mae hyn yn dangos bod \({x}\) yn llai na \({2}\)
\[-{1}\leq{x}\textless{3}\]
Mae hyn yn dangos bod \({x}\) yn fwy na neu'n hafal i \({-1}\), ac yn llai na \({3}\)
\({x}\geq{-1}\) ac \({x}\textless{3}\).
Sylwa ein bod ni wedi newid trefn y rhan gyntaf, ond mae’n dal i olygu’r un peth.
Mae \({x}\geq-{1}\) yn golygu’r un peth â \(-{1}\leq{x}\)
Pa anhafaledd sydd wedi ei gynrychioli gan y llinell rif isod?
\[{0}\leq{x}\textless{4}\]
Mae dot llawn ar \({0}\), felly \({x}\geq{0}\), ac mae dot gwag ar \({4}\) felly \({x}\textless{4}\).
Felly gallwn ysgrifennu \({0}\leq{x}\textless{4}\)