Iechyd y cyhoedd yn yr Oesoedd Canol

Roedd trefi canoloesol yn llefydd afiach. Nid oedd iechyd y cyhoedd yn uchel ar agenda y rhan fwyaf o’r cynghorau tref. Nid oedd gan drefi systemau carthffosiaeth na chyflenwadau dŵr ffres, ac mae’n debyg eu bod yn arogli’n erchyll oherwydd bod gwastraff a charthion yn cael eu taflu i’r strydoedd.

Roedd tai wedi’u gwneud o blethwaith a dwb ac roedden nhw'n gwyro uwch ben y strydoedd gan gyfyngu ar olau ac awyr iach. Roedd llygod mawr, llau a chwain yn ffynnu yn y brwyn a daenwyd ar loriau clai tai pobl. Nid yw’n fawr o syndod bod clefydau yn ffynnu mewn trefi canoloesol.

Roedd y Shambles yn Efrog yn stryd o gigyddion ar un cyfnod. Mae yna fachau hyd heddiw ar du allan i rai tai ble roedd cig yn cael ei arddangos.

Stryd ganoloesol gul iawn o gobls gydag adeiladau fframwaith coed.
Roedd y stryd hon o dai canoloesol mor gul fel y gallai pobl wyro allan o ffenestri eu hystafelloedd gwely ac ysgwyd llaw â’u cymdogion dros y ffordd

Yn groes i'r farn gyffredin, roedd y rhan fwyaf o’r bobl ganoloesol yn ymwybodol o bwysigrwydd hylendid personol.

curriculum-key-fact
Pan oedd y Brenin John yn teithio o gwmpas ei deyrnas, roedd yn mynd â baddon gydag ef, yn ogystal â gwas baddon o’r enw William.

Ond, roedd glendid yn foeth nad oedd llawer o bobl yn gallu ei fforddio. Roedd y rhan fwyaf o’r bobl yn ymolchi mewn dŵr oer, oni bai eu bod yn gyfoethog ac yn gallu fforddio ei gynhesu.

Llun canoloesol yn dangos baddondy cyhoeddus ac mae gweision yn gweini ar y bobl sy’n ei ddefnyddio.
Darlun canoloesol yn dangos y tu mewn i faddondy cyhoeddus, a’r cleientiaid yn bwyta, gwrando ar gerddoriaeth ac efallai’n canlyn yn y baddon

Erbyn diwedd yr Oesoedd Canol roedd yna ymwybyddiaeth gynyddol o bwysigrwydd hylendid, ac roedd awdurdodau trefol yn gwario arian ar geisio cadw’u dinasoedd yn lân.

  • Dechreuodd trefi adeiladu tai bach cyhoeddus (toiledau). Erbyn y 15fed ganrif, roedd yna dros ddwsin yn Llundain. Yn aml roedden nhw'n cael eu lleoli ar bontydd, fel y gallai’r afon olchi’r gwastraff i ffwrdd.
  • Roedd Llundain yn cynhyrchu tua 50 tunnell o garthffosiaeth y dydd, felly talwyd i gribinwyr baw lanhau’r strydoedd. Roedd eu cyflog yn llawer uwch na’r gweithiwr cyffredin ar gyfartaledd. Roedd yna hefyd ffermwyr gong oedd yn gwagio carthbyllau a thoiledau.
  • Roedd gan drefi faddonau poeth, ee roedd gan Southwark yn Llundain 18 o faddonau poeth. Roedd gan hyd yn oed drefi llai faddondai, yn aml yn gysylltiedig â siopau bara - roedd y baddondai yn defnyddio’r gwres o’u poptai i gynhesu’r dŵr.
  • Cyflwynodd nifer o drefi ddeddfau cwarantin er mwyn ymladd yn erbyn y pla, ac arferid rhoi tai pobl a heintiwyd mewn cwarantin. Yn yr un modd roedd gwahangleifion yn cael eu cadw mewn tai gwahangleifion.
  • Yn ystod yr Oesoedd Canol daeth y crwsadwyr â sebon o’r Dwyrain Canol i Ewrop.

Roedd y mwyafrif o fynachlogydd ar gyrion trefi neu yng nghefn gwlad, ac roedd ganddyn nhw reolau llym ynghylch glanweithdra. Roedd ganddyn nhw gyflenwad o ddŵr ffres, 'ymolchdai' (ystafelloedd ymolchi), 'ceudai' fflysio (toiledau) wedi eu cysylltu i garthffosydd, tyweli glân a gorfodwyd pawb i gael baddon bedair gwaith y flwyddyn.

Roedd gan hyd yn oed drefi bach, megis Cynffig, yng Nghymru, reoliadau iechyd cyhoeddus. Yn amlwg, ystyrid bod glanweithdra’n bwysig. Roedd dympio gwastraff yn y dref neu’n agos i’w muriau yn drosedd, a dywedwyd wrth y trigolion am lanhau’r palmentydd o flaen eu cartrefi.

Nid oedd cigyddion yn cael lladd anifeiliaid ar y stryd, ac mi oedden nhw'n derbyn dirwy am daflu offal i’r stryd. Er mwyn cadw pobl y dref yn iach, roedd yna hefyd reolau llym ynghylch ansawdd y bwyd a werthwyd gan fasnachwyr.

Ond roedd y dirwyon mwyaf ar gyfer pobl oedd yn amharu ar fusnes, ee 3 swllt (15c) am ymladd neu 5 swllt (25c) am chwarae tennis ar y stryd, ac efallai bod hynny’n dangos bod yna bethau pwysicach nag iechyd cyhoeddus i’r gorfforaeth.

Hefyd, cymerodd y Llywodraeth gamau i geisio gwella iechyd cyhoeddus a hylendid, gan roi dirwyon o £30, oedd yn swm anferthol yn ystod y cyfnod hwnnw. Mae’r ddeddf hon a basiwyd gan y senedd ar ôl y Pla Du yn Lloegr (1348-1350) yn arwydd o’i bryder.

quote
… so much dung and filth of the garbage and entrails be (are) cast and put into ditches, rivers, and other waters... that the air there is grown greatly corrupt and infected, and many maladies and other intolerable diseases do daily happen... all they who do cast and lay all such annoyances, dung, garbages, entrails, and other ordure, in ditches, rivers, waters, and other places aforesaid, shall …forfeit to our Lord the King the sum of 20 pounds.Deddf a basiwyd gan y senedd ar ôl y Pla Du

Ond, er gwaetha’r ymdrechion a restrir uchod, nid oes unrhyw dystiolaeth o unrhyw wir welliannau i iechyd y cyhoedd yn ystod yr Oesoedd Canol.

  • Nid oedd gan bobl unrhyw wybodaeth am beth oedd yn achosi clefydau. Mae’r dyfyniad uchod yn cyfeirio at y syniad bod clefydau yn cael ei ledaenu ganddrewdod pan mae’n nodi bod yr awyr yno wedi ei lygru a’i heintio .
  • Roedd toiledau cyhoeddus yn cael eu gwagio i afonydd oedd yn fagwrfa i glefydau. Roedd pobl yn defnyddio dŵr o'r afonydd i goginio a glanhau.
  • Roedd swm yr ysbwriel yn golygu ei bod bron yn amhosibl cadw strydoedd yn lân.
  • Hyd yn oed mewn trefi â baddondai, nid oedd pobl yn ymolchi mor aml â hynny. Roedd un llyfr meddygol yn cynghori pobl bod y gwanwyn a’r gaeaf yn adegau da i ymolchi, ond y dylid osgoi gwneud hynny yn ystod yr haf.
  • Ni ystyriwyd bod gwella iechyd cyhoeddus yn gyfrifoldeb i’r Llywodraeth.
  • Roedd yr Eglwys yn credu mai cosb Duw oedd clefydau, felly roedd pobl yn credu na ellid gwneud dim amdano.