Mae tystiolaeth wedi dangos bod tymheredd y Ddaear yn codi oherwydd cynnydd mewn nwyon tŷ gwydr yn yr atmosffer. Bydd hyn yn dal i achosi llawer o effeithiau negyddol a chadarnhaol.
Ers pryd mae cynnydd cyflym wedi bod yn nhymereddau’r byd?
1850
1950
1750
Pa un o’r rhain allai gael ei ddefnyddio i fesur newid mewn tymereddau dros gyfnod?
Baromedr
Mesurydd gogwydd
Samplau creiddiau iâ
Pa un o’r rhain sy’n enghraifft o nwy tŷ gwydr?
Ocsid nitrus
Argon
Ocsigen
Pa fath o dystiolaeth sy’n brawf bod cynhesu byd-eang yn digwydd?
Mae rhewlifoedd yn encilio wrth iddynt feirioli
Mae mwy o bobl yn mynd ar wyliau i hinsoddau cynhesach
Mae llawer o bobl yn prynu paneli solar ar gyfer eu cartrefi nawr
Pa nwy tŷ gwydr sy’n cael ei ryddhau o safleoedd tirlenwi?
Carbon deuocsid
Methan
Beth yw diffeithdiro?
Y broses lle mae tir yn troi’n ddiffeithdir wrth i ansawdd y pridd ddirywio dros gyfnod
Y broses lle mae tir yn colli llystyfiant
Y broses lle mae tir yn colli maetholion
Beth yw un o effeithiau negyddol newid hinsawdd yn y DU?
Bydd biliau gwresogi’n cynyddu yn y gaeaf
Mae tywydd eithafol yn fwy tebygol
Rhagor o ddamweiniau oherwydd tywydd rhewllyd yn y gaeaf
Pa un o’r rhain sy’n effaith gadarnhaol newid hinsawdd o amgylch y byd?
Bydd stormydd trofannol yn llai
Bydd achosion o glefydau fel malaria yn lleihau
Tymhorau tyfu hirach ar gyfer cnydau
Pa dechneg sy’n strategaeth addas i leihau effeithiau newid hinsawdd?
Defnyddio ceir injan petrol yn unig i gymudo
Teithio i’r gwaith drwy gerdded neu feicio yn unig
Gosod uned aerdymheru yn eich cartref
Beth oedd protocol Kyoto?
Cytuniad rhyngwladol i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr
Confensiwn yn Siapan i drafod mewnforio ceir
Math o egni adnewyddadwy