Achosion newid hinsawdd

Un o swyddogaethau naturiol atmosffer y Ddaear yw cadw rhywfaint o’r gwres sy’n cael ei golli o’r Ddaear. Mae hyn yn cael ei alw yn effaith tŷ gwydr.

  1. Mae’r atmosffer yn gadael i’r gwres o’r Haul (pelydriad tonfedd fer) basio drwodd i gynhesu arwyneb y Ddaear.
  2. Yna mae arwyneb y Ddaear yn rhyddhau gwres (pelydriad tonfedd hir).
  3. Mae’r gwres hwn yn cael ei ddal gan nwyon tŷ gwydr (ee methan, carbon deuocsid ac ocsid nitrus), sy’n pelydru’r gwres yn ôl tua’r Ddaear.
  4. Mae’r broses hon yn cynhesu’r Ddaear.
Diagram yn esbonio'r 'effaith tŷ gwydr'.

Ffactorau dynol sy’n cynyddu cynhesu byd-eang

Mae rhai gweithgareddau dynol yn cynyddu’r nwyon tŷ gwydr sydd yn yr atmosffer.

  • Llosgi tanwydd ffosil, ee glo, nwy ac olew – mae’r rhain yn rhyddhau carbon deuocsid i’r atmosffer.
  • Datgoedwigo – mae coed yn amsugno carbon deuocsid yn ystod ffotosynthesis. Os ydynt yn cael eu torri, bydd mwy o garbon deuocsid yn yr atmosffer.
  • Dympio gwastraff mewn safleoedd tirlenwi – pan mae’r gwastraff yn dadelfennu mae’n cynhyrchu methan.
  • Amaethyddiaeth – mae arferion amaethyddol yn arwain at ryddhau ocsidau nitrogen i’r atmosffer.
Y gylchred garbon ac effeithiau pobl.

Pan mae pobl yn llosgi tanwydd, mae crynodiad naturiol CO2 yn newid. Mae carbon yn symud drwy’r amgylchedd mewn cylchred. Nid yw byth yn cael ei golli na’i ennill. Mae’n llifo o’r naill storfa i’r llall.

Ffactorau naturiol sy’n cynyddu cynhesu byd-eang

Mae ffactorau naturiol sy’n cyfrannu tuag at fwy o gynhesu byd-eang hefyd.

  • Newidiadau orbitol – mae gan y Ddaear gyfnodau cynhesu ac oeri naturiol sy’n cael eu hachosi gan gylchredau Milankovitch neu amrywiadau yng ngogwydd a/neu orbit y Ddaear o amgylch yr Haul (Damcaniaeth siglad, rholiad ac estyniad).
  • Allbwn solar – mae pelydriad yr Haul yn amrywio. Os yw’r swm sy’n cael ei allyrru o’r Haul yn uchel, bydd tymheredd y Ddaear yn codi.
  • Gweithgaredd folcanig – yn ystod echdoriad folcanig mae carbon deuocsid yn cael ei ryddhau i’r atmosffer. Gall hyn hefyd effeithio ar iâ môr a cheryntau cefnforol. Yn ystod cyfnod y mae pobl yn cyfeirio ato fel yr ‘Oes Iâ Fach’ cwympodd tymereddau yn y DU ac ar draws gogledd-ddwyrain Ewrop i dair gradd yn is na’r arferol. O ganlyniad, roedd afon Tafwys yn Llundain wedi rhewi’n gorn ym misoedd y gaeaf. Mewn rhannau eraill o’r byd, datblygodd rhewlifoedd a chafodd planhigion eu dinistrio gan y rhew/iâ.
Llun o ffair rew/iâ ar afon Tafwys yng ngaeaf 1814. Mae pobl wedi gosod pebyll ar yr afon sydd wedi rhewi.
Afon Tafwys wedi rhewi o ganlyniad i weithgaredd folcanig