Mae’r term 'gwledig' yn aml yn cyfeirio at rannau o’r wlad lle mae dwysedd y boblogaeth yn llai. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae ardaloedd gwledig wedi bod dan bwysau oherwydd datblygwyr tai, ymwelwyr, a phobl yn symud o’r ddinas i fyw yn y wlad.
Mae cymunedau cynaliadwy yn lleoedd sy’n gallu cefnogi anghenion pawb sy’n byw yno, gan ddarparu ansawdd bywyd da i ni heddiw ac i genedlaethau’r dyfodol.
Wrth adeiladu ardaloedd neu gymunedau cynaliadwy, gall daearyddwyr ddefnyddio Olwyn Egan i asesu pa mor gynaliadwy yw’r gymuned neu’r syniad sy’n cael ei ddatblygu. Er enghraifft, gall adeiladu canolfan hamdden newydd mewn ardal wledig helpu i wneud yr ardal yn fwy cynaliadwy os yw’n bodloni rhai neu’r rhan fwyaf o feini prawf Olwyn Egan. Ar y llaw arall, gall tref newydd yn ei chyfanrwydd gael ei hystyried yn gynaliadwy os bydd y rhan fwyaf neu bob un o feini prawf Olwyn Egan yn cael eu bodloni.
Mae llawer o enghreifftiau o gymunedau neu ddatblygiadau sy’n cael eu hystyried yn gynaliadwy mewn ardaloedd gwledig ledled Cymru.
Mae digwyddiadau hwylio blynyddol yn cael eu cynnal yn yr academi hwylio genedlaethol ger Pwllheli. Mae rhagor o ymwelwyr yn hwb i’r economi wledig leol. Maen nhw’n aros mewn gwestai, llety gwely a brecwast a meysydd gwersylla/carafanio lleol. Mae’r clwb hwylio ei hun yn cyflogi llawer o weithwyr amser llawn ac yn recriwtio gweithwyr rhan-amser yn ystod digwyddiadau mawr. Mae gan yr adeilad hefyd ganolfan gynadleddau busnes fawr y gall busnesau ei defnyddio ar gyfer digwyddiadau. Mae busnesau lleol, fel tai bwyta, siopau chwaraeon a siopau anrhegion, hefyd yn elwa o’r sgil effeithiau. Mae’r ffactorau hyn yn cynhyrchu swyddi amser llawn a rhan-amser sy’n cyfrannu tuag at yr effaith luosydd gadarnhaol.
Mae’r Sioe Fawr a’r Ffair Aeaf, sy’n cael eu cynnal yn flynyddol yn Llanelwedd ger Llanfair-ym-Muallt, yn enghreifftiau o fentrau cymunedol cynaliadwy sy’n ymwneud â’r amgylchedd. Mae’r sioe amaethyddol bedwar diwrnod a’r Ffair Aeaf sy’n para am ddeuddydd yn llawn gweithgareddau diwylliannol a chymdeithasol amrywiol. Er bod llawer o’r gweithgareddau’n gysylltiedig ag amaethyddiaeth, mae llawer o weithgareddau eraill hefyd, fel digwyddiadau chwaraeon, perfformiadau cerddorol ac arddangosfeydd coginio. Yn ystod gweddill y flwyddyn, mae maes y sioe yn gartref i Undeb Cenedlaethol y Ffermwyr (yr NFU) a gwasanaethau bancio ac yswiriant arbenigol i gefnogi ffermwyr lleol a chymdeithasau amaethyddol ledled Cymru.
Mae ysgolion newydd wedi cael eu hadeiladu mewn llawer o ardaloedd gwledig ledled Cymru. Mae cyfraddau genedigaethau’n gostwng at ei gilydd mewn pentrefi gwledig traddodiadol, ac mae hyn wedi gorfodi rhai awdurdodau lleol i gau ysgolion bach sydd wedi mynd yn rhy gostus i’w cynnal a’u gweithredu. Ym Mhowys, mae’r Cyngor wedi penderfynu cau dwy ysgol gyfun a sefydlu un ysgol lawer mwy yn eu lle. Bydd yr ysgol newydd yn fwy ystyriol o’r amgylchedd na’r ddwy ysgol hŷn.
Mae mentrau trafnidiaeth gynaliadwy amrywiol wedi cael eu rhoi ar waith hefyd mewn lleoliadau gwledig ledled Cymru. O rannu ceir, i gynlluniau cludiant cyhoeddus trydan/hybrid, rydym wedi gweld llawer o ddatblygiadau newydd.