Tlodi ac amddifadedd gwledig

Achosion tlodi gwledig

  • Incwm isel a gwaith rhan-amser oherwydd prinder busnesau a chyfleoedd i bobl leol mewn ardaloedd gwledig.
  • Prinder gwasanaethau, ee iechyd, ysgolion a hyfforddiant oherwydd bod llai o bobl yn byw mewn ardaloedd gwledig i gefnogi a chynnal y gwasanaethau.
  • Cludiant cyhoeddus anaml a chostau trafnidiaeth uchel. Gan fod llai o bobl yn byw yno ac yn defnyddio gwasanaethau cludiant cyhoeddus, mae’n gostus i gwmnïau weithredu. O ganlyniad, mae gwasanaethau llai aml yn cael eu cynnig.

Effeithiau tlodi gwledig

  • Pan mae llawer o bobl yn cael eu cyflogi mewn swyddi amaethyddol tymhorol cyflogau isel maen nhw’n cael trafferth i dalu biliau. Efallai y bydd llawer yn ddi-waith am gyfnodau helaeth o’r flwyddyn ac yn dibynnu ar fudd-daliadau.
  • Nid oes gan yr ardal wledig gysylltiadau da ag ardaloedd eraill oherwydd prinder gwasanaethau bysiau, ffyrdd gwael a chysylltiad rhyngrwyd gwael - sy’n arwain at arwahanrwydd ac amddifadedd gwledig.
Map o Gymru yn dangos amddifadedd gwledig. Mae’r awdurdodau lleol mwyaf difreintiedig yng Nghymru wedi’u lliwio’n goch, ac mae prinder gwasanaethau pwysig fel iechyd ac addysg yno.

Mewn llawer o gymunedau difreintiedig mae’r dyfodol yn ansicr. Mae rhai ffermwyr yn gadael y diwydiant yn gyfan gwbl oherwydd llai o elw a mwy o gystadleuaeth o dramor.

Arwahanrwydd oddi wrth iechyd ac addysg

Mewn ardaloedd trefol mae amrediad o wasanaethau iechyd, fel clinigau, fferyllfeydd ac ysbytai.

Addysg

Mae meithrinfeydd, ysgolion cynradd ac uwchradd, colegau a phrifysgolion yn ogystal ag amrediad o ganolfannau hyfforddi a chanolfannau dysgu oedolion mewn ardaloedd trefol. Ond mewn cymunedau gwledig mae pobl yn agored i niwed ac yn colli’r cyfleoedd hyn gan nad yw’r gwasanaethau iechyd ac addysg hanfodol ar gael yn lleol. Mae rhai’n gorfod teithio dros 100 milltir ar draws ffiniau i gael gwasanaethau iechyd neu fynd i brifysgol.

Iechyd

Ar Benrhyn Llŷn yng ngogledd-orllewin Cymru, dim ond tair canolfan iechyd sy’n gwasanaethu’r ardal gyfan. Mae’r prif ysbyty dros 30 milltir i ffwrdd ym Mangor, tref fawr ar forlin gogleddol Cymru. I gael gofal arbenigol, mae cleifion yn aml yn gorfod teithio i Lerpwl, 100 milltir i fwrdd, neu i Birmingham, 150 milltir i ffwrdd.

Henoed

Yn aml iawn mae pobl hŷn yn teimlo’n fwy ynysig na’r cenedlaethau iau mewn ardaloedd gwledig. Mae hyn oherwydd eu bod yn gorfod ymweld yn amlach â gwasanaethau iechyd filltiroedd i ffwrdd. Maen nhw hefyd yn dibynnu mwy ar gludiant cyhoeddus i fynd i wahanol leoedd, a gall hynny olygu siwrneau hir neu annibynadwy.

Dynes mewn oed yn disgwyl am fws mewn lleoliad gwledig. Yn ymyl y safle bws mae ciosg ffôn coch traddodiadol.
Mae gwasanaethau bws yn gysylltiadau hanfodol â gwasanaethau iechyd ac addysg, ond maen nhw’n anaml ac yn gallu cymryd mwy o amser na cheir