Mae Islam yn grefydd sy'n annog cyfrifoldeb amgylcheddol. Mae'n dysgu mai Allah yw Creawdwr y Bydysawd a'r byd a bod cyfrifoldeb ar yr holl bobl i ofalu am y byd a phopeth sydd ynddo.
Yn 2013, cafodd mosg gwyrdd ei adeiladu yn Tanzania, Affrica. Ymgais oedd hyn i greu addoldy oedd mor garedig i’r amgylchedd â phosibl. Cafodd technolegau gwyrdd eu defnyddio i leihau effaith yr adeilad ar y gymuned.
Dyma rai enghreifftiau o’r technegau a gafodd eu defnyddio i wneud hyn:
Mae Mwslimiaid dros y byd wedi edrych at esiampl y mosg gwyrdd yn Tanzania i weld sut maen nhw'n gallu gweithio tuag at gynaliadwyedd mewn rhannau eraill o’r byd.
Menter dan arweiniad myfyrwyr yw Ecomosque, sy’n anelu at adeiladu’r mosg cyntaf ar gampws coleg ym Mhrydain, a hynny ym Mhrifysgol Salford. Mae’n brosiect dylunio arloesol, a’i nod yw adnewyddu ymrwymiad y ffydd i’r amgylchedd a gadael etifeddiad parhaol ym maes pensaernïaeth ac addysg i’r cenedlaethau sydd i ddod.
Bydd yr Ecomosque:
Penderfynais fy mod eisiau seilio’r mosg ar adeiladwaith deilen. Yr olwg esthetig oedd fy ymgais i gyfleu purdeb a symlrwydd y grefydd ei hun.Humaira Farooq, dylunydd buddugol Ecomosque Salford
Cyfweliad a thrafodaeth am ddyluniad buddugol Ecomosque Salford [Cynnwys Saesneg]