Amodau byw yn yr Oesoedd Canol a’r cyfnod modern cynnar

Yn eu hymdrechion i osgoi clefydau, roedd pobl yn ystod y canrifoedd a fu yn wynebu heriau difrifol.

Roedd tlodi a diffyg maeth yn gyffredin. Roedd y rhan fwyaf o bobl Prydain yn yr Oesoedd Canol yn werinwyr oedd yn dibynnu ar gnydau a’r ychydig anifeiliaid oedd ganddyn nhw er mwyn goroesi. Ar ôl cynhaeaf gwael, byddai’r gwerinwyr yn fwy tebygol o ddioddef glefydau. Roedd hynny’n arbennig o wir yn achos plant ac amcangyfrifir bod 30 y cant wedi marw cyn eu bod yn saith oed.

Roedd newyn yn fygythiad parhaus. Yn ystod Newyn Mawr 1315-17, credir bod 10 y cant o boblogaeth Prydain wedi marw. Yn aml roedd pobl yn gorfod bwyta eu hanifeiliaid i gyd a hadau’r flwyddyn ganlynol, oedd yn achosi problemau ar gyfer y blynyddoedd dilynol.

Roedd rhyfel yn rhan o fywyd drwy’r amser. Roedd brenhinoedd Lloegr yn ymladd mewn rhyfeloedd gartref a thramor. Yn aml roedd brwydrau yn waedlyd ac erchyll. Ym Mrwydr Towton yn 1461 credir bod 28,000 o ddynion wedi marw - 1 y cant o boblogaeth Lloegr. Roedd byddinoedd hefyd yn byw oddi ar y tir ac yn cymryd bwyd oddi ar y werin bobl, neu’n llosgi eu tai a’u caeau, gan ychwanegu at eu problemau.

Roedd achosion eraill yn niferus. Roedd tai coed yn golygu bod tân yn berygl mawr, tra bod bwyd wedi ei heintio yn achosi nifer o farwolaethau. Roedd damweiniau ar y stryd oedd yn ymwneud â throliau neu anifeiliaid yn gyffredin, a damweiniau yn y gwaith hefyd, mewn oes nad oedd y llywodraeth yn rhoi sylw at faterion iechyd a diogelwch. Roedd hyd yn oed teithio yn gallu bod yn beryglus, oherwydd y broblem o ganfod lloches ddiogel dros nos ac osgoi lladron. I fenywod, y bygythiad pennaf oedd beichiogrwydd a genedigaeth.

Er bod rhai o’r rhain wedi diflannu gydag amser, roedd problemau megis tlodi a diffyg maeth yn parhau i fod yn broblem hyd y 19eg ganrif a thu hwnt.