Dilyniant llinol ydy’r enw ar batrwm rhif sy’n cynyddu (neu’n lleihau) yr un faint bob tro. Y gwahaniaeth cyffredin ydy’r term am y maint y mae’n cynyddu neu’n lleihau.
Felly mae gan y dilyniant rhifau yn nhabl \({5}\) wahaniaeth cyffredin o \({5}\) a'r \({n}^{fed}\) term ydy \({5n}\).
Ond beth sy’n digwydd os bydd pethau’n mynd yn fwy cymhleth?
\({5}\) ydy’r gwahaniaeth cyffredin o hyd, ond nid tabl \({5}\) sydd yma.
Dyma dabl \({5}\): \({5},~{10},~{15}, ...\)
Dyma’r dilyniant: \({7},~{12},~{17}, ...\)
Mae pob term yn y dilyniant \({2}\) yn fwy na’r term cyfatebol yn nhabl \({5}\), felly yr \({n}^{fed}\) term ydy \({5n} + {2}\).
Beth ydy \({n}^{fed}\) term y dilyniant: \({8},~{11},~{14}, ...\) ?
Y gwahaniaeth cyffredin ydy \({3}\), felly mae’n rhaid ei fod yn gysylltiedig â thabl \({3}\) (\({3n}\)).
Dyma dabl \({3}\): \({3},~{6},~{9}, ...\)
Dyma’r dilyniant: \({8},~{11},~{14}, ...\)
Mae pob term yn y dilyniant \({5}\) yn fwy na’r term cyfatebol yn nhabl \({3}\), felly yr \({n}^{fed}\) term ydy \({3n} + {5}\).