Lluniadu onglau

Dyma sut mae lluniadu’r ongl {PQR} = {60}^\circ:

1. Tynna’r llinell QR.

Diagram llinell QR

2. Rho dy onglydd ar y llinell QR. Gwna’n siŵr fod canol dy onglydd dros y pwynt Q, a bod llinell waelod yr onglydd yn gorwedd yn union dros y llinell QR. Gwna farc ar {60}^\circ.

Diagram llinell QR

3. Tynna’r onglydd a gwna linell o Q at y marc {60}^\circ. Rho’r label P ar y pwynt hwn.

Diagram protractor

4. Os oes angen, marcia’r ongl.

Diagram llinell PQR