Dylet ti fod yn gallu adnabod pedwar math o ongl: ongl lem, ongl aflem, ongl atblyg ac ongl sgwâr. Wrth amcangyfrif maint ongl, dylet ti ystyried pa fath o ongl ydy hi’n gyntaf.
Mae ongl lem yn llai na \({90}^\circ\).
Mae ongl sgwâr yn union \({90}^\circ\).
Mae ongl aflem rhwng \({90}^\circ\) a \({180}^\circ\).
Mae ongl atblyg yn fwy na \({180}^\circ\).