Gallwn ni weld y newidiadau egni sy'n digwydd yn ystod adwaith cemegol drwy archwilio'r newidiadau i'r bondio cemegol. Gallwn ni ddefnyddio hyn i ddosbarthu adweithiau fel rhai ecsothermig neu endothermig.
Yn ystod adwaith cemegol:
Mae egni’n cael ei amsugno i dorri bondiau. Mae torri bondiau yn broses endothermig.
Mae egni’n cael ei ryddhau wrth i fondiau newydd ffurfio. Mae gwneud bondiau yn broses ecsothermig.
Mae a yw adwaith yn endothermig neu’n ecsothermig yn dibynnu ar y gwahaniaeth rhwng yr egni sydd ei angen i dorri bondiau a’r egni sy’n cael ei ryddhau wrth ffurfio bondiau newydd.
Mae diagramau egni’n dangos lefel egni’r adweithyddion a’r cynhyrchion. Y mwyaf yw’r gwahaniaeth rhwng egni’r adweithyddion ac egni’r cynhyrchion, y mwyaf o egni sy’n cael ei ryddhau neu ei dderbyn. Mae’n hawdd gweld o ddiagram lefel egni ydy’r adwaith yn ecsothermig neu’n endothermig:
Mewn adwaith ecsothermig, mae egni’r cynhyrchion yn is na’r adweithyddion. Y gwahaniaeth rhwng egni’r adweithyddion ac egni’r cynhyrchion yw newid enthalpi (∆H) yr adwaith. Mewn unrhyw adwaith ecsothermig, mae’r newid enthalpi’n negatif.
Mewn adwaith endothermig, mae egni’r cynhyrchion yn uwch na’r adweithyddion. Mae hyn yn golygu bod newid enthalpi (∆H) yr adwaith yn bositif.
Yr egni actifadu yw isafswm yr egni sydd ei angen er mwyn i adwaith ddigwydd.
Gallwn ni gynrychioli hyn ar y proffil egni fel ‘crib’. Mae hwn yn dangos faint o egni sydd ei angen er mwyn i’r adweithyddion adweithio a throi’n gynhyrchion.
Mae egni actifadu adwaith ecsothermig ac adwaith endothermig wedi’i ddangos isod: