Eithafiaeth grefyddol

Mae’r term eithafiaeth yn golygu bod â syniadau neu gredoau y mae’r rhan fwyaf o bobl yn credu eu bod yn afresymol neu’n annerbyniol. Gall pobl fod â safbwyntiau eithafol am bynciau amrywiol, er enghraifft, gwleidyddiaeth neu grefydd.

Pan mae eithafiaeth yn gysylltiedig â ffydd, mae’n cael ei galw’n eithafiaeth grefyddol, hynny yw, pan mae crefydd rhywun mor bwysig iddo nes ei fod yn teimlo bod cyfiawnhad dros weithredu mewn ffordd eithafol er mwyn ceisio gwneud i bobl eraill rannu’r un credoau ag ef.

Gall eithafiaeth grefyddol ddigwydd o ganlyniad i nifer o ffactorau:

  • dehongliad pobl o lyfr sanctaidd eu crefydd
  • y gred y byddan nhw’n cael eu gwobrwyo am hyn yn y bywyd hwn neu fywyd ar ôl marwolaeth
  • maen nhw’n cael eu dylanwadu neu eu radicaleiddio gan bobl eraill
  • maen nhw’n credu eu bod nhw’n ei wneud i Dduw
  • cael eu siomi mewn rhyw ffordd gan gymdeithas

Mae eithafiaeth grefyddol yn camu dros y cydbwysedd sensitif rhwng rhyddid i lefaru a gweithredu. Mae’r rhyddid i fynegi barn yn hawl ddynol, ond weithiau mae’n anodd cael y cydbwysedd iawn, oherwydd weithiau mae ambell farn sy’n cael ei mynegi yn gallu peri tramgwydd neu frifo teimladau rhywun arall.

Yn y Gymru gyfoes, mae angen dealltwriaeth o’r gwahanol safbwyntiau, ac mae hyn yn elfen ganolog o gydlyniad cymdeithasol.

Safbwyntiau Mwslimaidd

Yn wahanol i eithafwyr, mae Mwslimiaid cymedrol yn condemnio gweithredoedd eithafwyr a grwpiau jihadaidd.

Mae Cyngor Mwslimiaid Cymru wedi cyhoeddi datganiadau yn dilyn digwyddiadau terfysgol brawychus. Mae’r datganiadau hyn yn condemnio’r rhai sydd wedi cyflawni’r gweithredoedd ac yn pwysleisio nad yw terfysgwyr yn gweithredu yn enw Islam. Mae Islam yn grefydd heddychlon.

Enghraifft o eithafiaeth Fwslimaidd

Yn Ionawr 2015, cafodd 12 o bobl eu saethu a’u lladd mewn digwyddiad terfysgol yn swyddfa cylchgrawn dychanol Charlie Hebdo ym Mharis, yn Ffrainc. Ymhlith y rhai gafodd eu lladd oedd pedwar o gartwnwyr adnabyddus y cylchgrawn, gan gynnwys y golygydd, yn ogystal â dau blismon.

Cafodd staff y cylchgrawn eu targedu oherwydd eu bod wedi cyhoeddi lluniau cartŵn o’r Proffwyd Muhammad. Roedd bom tân wedi’i osod yn y swyddfa cyn hyn ym mis Tachwedd 2011, ddiwrnod ar ôl i’r cylchgrawn gyhoeddi cartŵn dychanol o’r Proffwyd Muhammad.

Mae’r rhan fwyaf o Fwslimiaid yn credu nad oes gan neb hawl i dynnu llun o’r Proffwyd Muhammad, nac unrhyw un arall o broffwydi Islam. Maen nhw’n meddwl bod lluniau a cherfluniau yn annog eilunaddoliaeth. Mae hwn yn bechod mawr mewn Islam, ac yn cael ei alw’n shirk.

Cafodd gweithredoedd y terfysgwyr eu condemnio mewn gwledydd ym mhob rhan o’r byd. Mae’r digwyddiad yn codi cwestiynau ynglŷn â rhyddid i lefaru a rhyddid mynegiant. I ba raddau y dylai pobl allu mynegi barn heb beri tramgwydd neu sarhau safbwyntiau crefyddol pobl eraill?

Move on to Test
next