Beth yw sensoriaeth?

Mae sensoriaeth yn golygu archwilio gwahanol fathau o gyfryngau a gwahardd rhannau sy’n cael eu hystyried yn annerbyniol. Gall y cyfryngau gael eu hystyried yn annerbyniol am lawer o wahanol resymau, er enghraifft oherwydd eu bod yn dreisgar, o natur rywiol neu’n defnyddio iaith anweddus.

Mae cyfreithiau sensoriaeth yn gallu cyfyngu ar beth mae rhai pobl yn cael ei ddweud. Yn y Deyrnas Unedig mae gan bobl ryddid i lefaru cyn belled nad yw eu geiriau’n annog casineb. Mae hyn yn golygu bod pobl yn cael mynegi eu barn.

curriculum-key-fact
Mae sensoriaeth yn golygu gwahardd neu reoli unrhyw beth byddai'n gallu peri tramgwydd neu frifo teimladau pobl eraill.

A ddylai grwpiau crefyddol allu sensro beth sy’n cael ei ddangos yn y cyfryngau?

Yn y rhan fwyaf o draddodiadau crefyddol roedd safbwyntiau’n cael eu mynegi ynglŷn â beth sy’n dderbyniol o safbwynt moesol. Mae llawer o blaid sensro’r cyfryngau am ei fod yn helpu i leihau’r ymddygiad eithafol byddem o bosibl yn ei weld fel arall.

Mae dadleuon o blaid ac yn erbyn galluogi grwpiau crefyddol i sensro beth sy’n cael ei ddangos yn y cyfryngau.

O blaid:

  • byddai pobl ifanc yn fwy diogel, oherwydd fydden nhw ddim yn gweld golygfeydd rhywiol, trais, iaith anweddus ac ymddygiad gwael
  • byddai’r cyfryngau’n esiampl o sut i ymddwyn mewn cymdeithas
  • byddai gwerthoedd crefyddol yn cael eu cadarnhau

Yn erbyn:

  • mae’n bosibl y byddai atheistiaid / anffyddwyr a rhai pobl grefyddol yn credu nad yw’n iawn bod grwpiau crefyddol yn ‘rheoli’r’ cyfryngau
  • byddai pobl yn colli eu rhyddid i ddewis pa gyfryngau torfol maen nhw eisiau eu defnyddio
  • gallai rheolau sensoriaeth mwy llym arwain at gyfryngau diflas, sydd ddim yn realistig
  • efallai na fydd gwahanol grwpiau crefyddol yn gallu cytuno ynglŷn â beth ddylai gael ei sensro

Erthygl 19

Mae Erthygl 19 o Siartr Hawliau Dynol y Cenhedloedd Unedig yn dweud bod gan bawb hawl i ryddid barn a mynegiant. Mae’r hawl hon yn cynnwys hawl i ryddid barn, heb ymyrraeth gan neb, a rhyddid i geisio, derbyn a chyfrannu gwybodaeth a syniadau gan ddefnyddio unrhyw gyfrwng, heb ystyried ffiniau gwlad.

Mae hon yn cael ei hystyried yn hawl ddynol sylfaenol i bawb.