Mae Mwslimiaid yn credu bod hawliau dynol yn helpu i greu cymdeithas fwy cyfartal. Mae urddas bywyd dynol yn bwysig oherwydd mae Mwslimiaid yn credu bod popeth byw wedi cael ei greu gan Allah, ac mae Islam yn hybu cydraddoldeb a rhyddid crefyddol personol.
Mae Mwslimiaid yn credu bod gan fodau dynol hawl i urddas a chydraddoldeb.
Mae’r Qur’an yn dweud hyn. Mae Mwslimiaid yn credu bod pawb wedi cael eu creu yn gyfartal gan Allah a bod pob bod dynol yn werthfawr.
Mae Mwslimiaid yn credu bod bywyd yn rhodd werthfawr gan Dduw.
Oherwydd hynny, deddfasom ar blant Israel fod pwy bynnag a laddo enaid, oni bai am enaid neu am lygredd [a wnaed] yn y tir – ei bod fel petai wedi llofruddio dynoliaeth yn gyfan gwbl. Ac yr oedd Ein negeswyr yn sicr wedi dod atynt â phrofion eglur. Wedyn yn wir yr oedd llawer ohonynt, [hyd yn oed] wedi hynny drwy’r tir i gyd, yn bechaduriaid.Qur'an 5:32