Perimedr siâp ydy cyfanswm y pellter o gwmpas ei ymyl. I gyfrifo perimedr siâp, y cwbl sydd raid ei wneud ydy adio hyd pob un o’i ochrau.
Weithiau mae’r siâp yn fwy cymhleth. Yn yr achos hwn mae angen cyfrifo hydoedd ‘coll’ a bod yn arbennig o ofalus dy fod yn cynnwys pob un o’r ochrau.
\[{Perimedr} = {2} + {2} + {3} + {3} + {5} + {5} = {20}~{cm}\]
Dyma gynllun o faes chwarae:
a) Cyfrifa hyd \({x}\) ac \({y}\).
b) Cyfrifa berimedr y maes chwarae.
a) Hyd y maes chwarae ydy \({20}~{m}\), felly \({x} = {20} - {8} = {12}~{m}\). Lled y maes chwarae ydy \({15}~{m}\), felly \({y} = {15} - {5} = {10}~{m}\).
b) \({Perimedr} = {8} + {5} + {12} + {10} + {20} + {15} = {70}~{m}\).