Y mesur cyfartaledd ydy’r rhif sy’n nodweddiadol ar gyfer set o ffigurau. Mae canfod y cyfartaledd yn help i ti dynnu casgliadau o’r data. Y prif fathau ydy’r cymedr, y canolrif a’r modd.
Canfydda amrediad y setiau rhifau canlynol:
a) \({23},~{27},~{40},~{18},~{25}\)
b) \({25},~{26},~{57},~{15},~{47}\)
a) Y gwerth mwyaf ydy \({40}\) a’r gwerth lleiaf ydy \({18}\). Felly, yr amrediad ydy \({40}-{18}={22}\).
b) Y gwerth mwyaf ydy \({57}\) a’r gwerth lleiaf ydy \({15}\). Felly, yr amrediad ydy \({57}-{15}={42}\).