Y mesur cyfartaledd ydy’r rhif sy’n nodweddiadol ar gyfer set o ffigurau. Mae canfod y cyfartaledd yn help i ti dynnu casgliadau o’r data. Y prif fathau ydy’r cymedr, y canolrif a’r modd.
Canfydda fodd y naill a’r llall o’r setiau rhifau canlynol:
a) \({3},~{7},~{1},~{3},~{4},~{8},~{3}\)
b) \({2},~{7},~{2},~{1},~{4},~{7},~{3}\)
a) Dechreua drwy osod y rhifau yn eu trefn: \({1},~{3},~{3},~{3},~{4},~{7},~{8}\). Rhif \({3}\) sy’n digwydd amlaf felly'r modd ydy \({3}\).
b) Dechreua drwy osod y rhifau yn eu trefn: \({1},~{2},~{2},~{3},~{4},~{7},~{7}\). Mae rhifau \({2}\) a \({7}\) yn digwydd yn amlach na’r rhifau eraill i gyd, felly'r moddau ydy \({2}\) a \({7}\).
Yn y tabl amlder hwn, y modd ydy’r gwerth â’r amlder mwyaf:
Yn yr enghraifft hon y maint esgid moddol ydy \({7}\), achos mae mwy o bobl yn cymryd maint \({7}\) nag unrhyw faint arall.