Y mesur cyfartaledd ydy’r rhif sy’n nodweddiadol ar gyfer set o ffigurau. Mae canfod y cyfartaledd yn help i ti dynnu casgliadau o’r data. Y prif fathau ydy’r cymedr, y canolrif a’r modd.
Canfydda ganolrif y ddwy set ganlynol o rifau:
a) \({2},~{4},~{7},~{1},~{9},~{3},~{11}\)
b) \({4},~{1},~{3},~{10},~{6},~{9}\)
a) Gosoda’r rhifau mewn trefn: \({1},~{2},~{3},~{4},~{7},~{9},~{11}\). Y rhif canol ydy \({4}\). Felly, y canolrif ydy \({4}\).
b) Gosoda’r rhifau mewn trefn: \({1},~{3},~{4},~{6},~{9},~{10}\). Mae dau rif canol \(({4}\) a \({6})\), felly rhaid canfod cymedr y ddau rif hyn. Y canolrif felly ydy: \(({4} + {6})\div{2} = {5}\).
Dychmyga fod \({n}\) o rifau wedi eu hysgrifennu mewn trefn.
Os ydy \({n}\) yn odrif, y canolrif fydd yr \(({\frac{(n+1)}{2}})^{fed}\) rhif.
Os ydy \({n}\) yn eilrif, y canolrif fydd cymedr yr \({(\frac{n}{2})}^{fed}\) rhif a’r \({(\frac{n}{2+1})}^{fed}\) rhif.
Os oes \({3}\) rhif, y canolrif fydd yr \(({3} + {1})\div{2} =~{2il}~rif.\)
Os oes \({4}\) rhif, y canolrif fydd cymedr y \({(\frac{4}{2})}^{fed}\) a’r \({(\frac{4}{{2}+{1}})}^{fed}~rhif~=~Cymedr~yr~ail~ar~trydydd~rhif.\)
Mae Rhiannon yn cofnodi nifer y goliau a sgoriwyd gan ei thîm pump-bob-ochr yn eu \({20}\) gêm gyntaf.
Dangosir y canlyniadau'n y tabl amlder isod:
Nifer y goliau | Amlder |
---|---|
\[{0}\] | \[{7}\] |
\[{1}\] | \[{6}\] |
\[{2}\] | \[{5}\] |
\[{3}\] | \[{0}\] |
\[{4}\] | \[{2}\] |
\[{5}\] | \[{0}\] |
Beth ydy nifer canolrifol y goliau a sgoriwyd?
Chwaraewyd \({20}\) gêm, felly'r canolrif fydd cymedr y \({10}^{fed}\) a’r \({11}^{eg}\) gwerth.
Mewn \({7}\) gêm sgoriwyd \({0}\) gôl, ac mewn \({5}\) gêm sgoriwyd \({1}\) gôl.
Mae’r \({10}^{fed}\) a’r \({11}^{eg}\) gwerth yn gorwedd yn y categori ‘\({1}\) gôl’.
Felly, nifer canolrifol y goliau ydy \({1}\).