Mae postgyfuno yn nodwedd prosesu geiriau sy’n caniatáu i ddefnyddwyr bersonoleiddio llythyrau gydag enwau a chyfeiriadau o gronfa ddata.
Y pum prif gam wrth greu llythyr ar gyfer postgyfuno yw:
creu’r gronfa ddata gyda meysydd ar gyfer enwau a chyfeiriadau’r bobl i anfon y llythyr atynt
ysgrifennu’r llythyr gan ddefnyddio pecyn prosesu geiriau a chysylltu’r llythyr â’r gronfa ddata
defnyddio ymholiad i ganfod is-set o bobl berthnasol ac anfon llythyr wedi’i dargedu atyn nhw
gan ddefnyddio’r dewin postgyfuno, rhowch godau yn y llythyr lle dylai enw a chyfeiriad y cwsmeriaid ymddangos
postgyfuno, gan gymryd y data o’r gronfa ddata a’u rhoi yn y llythyrau, i gynhyrchu un llythyr ar gyfer pob person sydd yn yr is-set o bobl berthnasol o’r gronfa ddata
Manteision
Mae’n bosibl ysgrifennu un llythyr safonol a’i anfon at bob cwsmer heb orfod ychwanegu pob enw a chyfeiriad â llaw.
Mae’n bosibl personoli’r llythyr – mae’n edrych fel pe bai’r llythyr wedi cael ei ysgrifennu at yr unigolyn.
Mae’n ffordd gyflym iawn o gynhyrchu cannoedd o lythyrau wedi’u personoli.
Anfanteision
Gall llythyrau golli’r cyffyrddiad personol.
Rhaid cadw’r gronfa ddata sy’n darparu’r wybodaeth ar gyfer y llythyr postgyfuno yn gyfredol er mwyn iddi fod yn ddefnyddiol.