Y cyfamod rhwng Duw a’r Iddewon yw sail y syniad bod yr Iddewon yn genedl wedi ei dewis gan Dduw. Mae cyfamod yr Iddewon yn dal i fod yn rhan bwysig o grefydd Iddewiaeth hyd heddiw.
Roedd y cyfamod rhwng Abraham a Duw yn cynnwys tair rhan:
Mae rhan gyntaf y cyfamod yn ymwneud â gwlad yr addewid, ac mae i’w gweld yn Genesis 12:1. Yma mae Duw yn dweud wrth Abraham am adael Ur a mynd i le o’r enw Canaan. Daeth gwlad Canaan i gael ei hadnabod yn ddiweddarach fel Israel. Cafodd yr enw Israel ar ôl ŵyr Abraham, ac mae’r Iddewon yn cyfeirio at Israel fel gwlad yr addewid oherwydd bod Duw wedi addo rhoi’r tir i ddisgynyddion Abraham.
Mae ail ran y cyfamod yn cynnwys addewid y disgynyddion, ac mae i’w gweld yn Genesis 12:2. Dyma ble gwnaeth Duw addo wrth Abraham y byddai’n creu cenedl fawr ohono – "Gwnaf di’n ffrwythlon iawn, a gwnaf genhedloedd ohonot..." Dyma pryd newidodd Duw enw Abram i Abraham, sy’n golygu ‘tad llawer o genhedloedd’.
Mae trydedd ran cyfamod Abraham, a’r rhan olaf, yn cynnwys yr addewid o fendith ac achubiaeth. Mae i’w gweld yn Genesis 12:1-3, lle mae Duw yn addo bendithio Abraham a’i holl ddisgynyddion. Fel rhan o’r cyfamod olaf hwn, gofynnodd Duw i Abraham dorri ei flaengroen, a blaengroen pob bachgen Iddewig ar ei ôl. Enw’r broses hon yw enwaediad ac mae’n arwydd o gyfamod Abraham.