Edrychwn ar graffiau llinell syth a sut i’w plotio neu eu dehongli fel hafaliadau’n defnyddio x ac y. Gallai darllen y canllawiau ar hafaliadau a chyfesurynnau yn gyntaf fod yn fuddiol.
Mae tablau’n gweithio’n dda pan wyt ti’n plotio graffiau ar ffurf \({y} = {mx} + {c}\), ond beth sy’n digwydd pan nad ydy’r hafaliad yn y ffurf hon?
Plotia graff \({2y} - {4x} = {3}\)
Sylwa nad ydy’r hafaliad hwn ar ffurf \({y} = {mx} + {c}\). Mae angen i ti ad-drefnu’r hafaliad i ffurf lle mae ochr chwith yr hafaliad yn cynnwys gwerth \({y}\) yn unig.
Felly adia \({4x}\) at y ddwy ochr i roi:
\[{2y} = {4x} + {3}\]
I ganfod \({y}\) rhanna’r ddwy ochr â \({2}\) i roi:
\[{y} = {2x} + \frac{3}{2}\]
Nawr dy fod wedi canfod yr hafaliad yn nhermau \({y}\), gelli di blotio’r graff gan ddefnyddio’r dull arferol.