Mae’r adran hon yn edrych ar wahanol fathau o hafaliadau, sut i gydbwyso hafaliadau, ac ar hafaliadau mwy cymhleth ar ffurf ax + b = c.
Os oes gan hafaliad ffracsiynau ar y ddwy ochr, lluosa’r ddwy ochr â Lluosrif Cyffredin Lleiaf yr enwaduron.
Datrysa:
\[\frac{({x}-{3})}{2}=\frac{({x}-{2})}{3}\]
Mae un ochr wedi ei rhannu â \({2}\). Mae’r ochr arall wedi ei rhannu â \({3}\). Lluosrif Cyffredin Lleiaf \({2}\) a \({3}\) ydy \({6}\), felly lluosa’r ddwy ochr â \({6}\).
\[\frac{({x}-{3})}{2}\times{6}=\frac{({x}-{2})}{3}\times{6}\]
\[{3}({x} - {3}) = {2}({x} - {2})\]
Ehanga’r cromfachau:
\[{3x} - {9} = {2x} - {4}\]
Tynna \({2x}\) o’r ddwy ochr:
\[{x} - {9} = - {4}\]
Adia \({9}\) at y ddwy ochr:
\[{x} = {5}\]